Ymchwil Genetig

Geneteg y wiwer Goch a Llwyd

Ym 1998, dim ond 30-40 o wiwerod coch oedd ar ôl ar Ynys Môn. Fe wnaeth y rhain ffurfio poblogaeth unigol yn rhan ddwyreiniol coedwig Pentraeth.

Dangosodd dadansoddiad cymharol o samplau gwallt a gymerwyd o boblogaeth y goedwig a deunydd a gasglwyd o sbesimenau’r ynys a oedd yn byw mewn safleoedd coetiroedd llydanddail ar Ynys Môn ugain mlynedd yn ôl bod yr ynys wedi colli llawer o’r amrywiaeth genetig a oedd yn bresennol unwaith. Erbyn y 1990au hwyr, dim ond un haploteip (un llinell waed benywaidd mewn termau syml) oedd yn bodoli ac fe’i rhannwyd gan yr holl anifeiliaid ym mhoblogaeth coedwig Pentraeth.

Lawr lwytho Papur Geneteg 2005

Datgelodd yr ymchwil hanesyddol hon hefyd fod sawl llinell waed gwiwer goch a oedd yn unigryw i Gymru. Hyd yma, ni ddarganfuwyd y mathau genetig hyn yn unman arall yn y DU, ond yn 2011, datgelodd astudiaethau bod anifail a oedd wedi’i fewnforio o dir mawr Ewrop yn meddu ar linell waed tebyg.

Mae poblogaeth y wiwer goch ar Ynys Môn wedi’i ategu gyda chyfres o ail-gyflwyniadau. Casglwyd samplau o wallt gan nifer o anifeiliaid a ddefnyddiwyd yn y rhaglen rhyddhau ac fe grëwyd proffiliau genetig hefyd. Datgelodd yr astudiaethau hyn bod y prosiectau ail-gyflwyno yn ymwneud ag ystod o anifeiliaid cyfoethog o ran geneteg.

Yn 2010, fe wnaeth y Labordy Wildgenes yn Sŵ Caeredin sgrinio samplau o wallt a gasglwyd gan 100 o samplau gwiwer goch a gasglwyd o safleoedd ledled yr ynys. Yn yr astudiaeth enetig gwiwer goch unigol mwyaf yn y DU, datgelwyd patrymau o lif eneteg ar yr ynys.

Dyma’r prif ganfyddiadau:

  1. Bu cynnydd yn yr amrywiaeth genetig ar Ynys Môn.
  2. Bod y nifer o linellau gwaed wedi cynyddu o un i chwech ers 2022/3.
  3. That animals had dispersed into Pentraeth forest from adjacent reintroduction sites.
  4. Bod gan goedwig Niwbwrch y boblogaeth wiwer goch unigol mwyaf a bod mathau genetig oedd heb eu hail-gyflwyno yno wedi cyrraedd drwy wasgariad gwiwerod coch.
  5. Argymhellwyd cynnal samplo gwallt ychwanegol ac i’r perwyl hwnnw yn 2011 a 2012 mae’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu casglu 200 sampl o wallt gwiwerod coch.
© Roger Wakefield