Mae’r Ymddiriedolaeth yn dibynnu ar waith caled ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr i helpu i warchod gwiwerod coch yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fonitro gwiwerod coch (a bele’r coed o bosibl) gan ddefnyddio maglau camera; casglu samplau genetig, helpu cynnal sesiynau celf a chrefft, adeiladu porthwyr gwiwerod a blychau nyth a dal gwiwerod llwyd.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ymwneud gyda natur a chefnogi bywyd gwyllt. Does dim rhaid ichi fod yn arbenigwr i gymryd rhan, ac mae ein holl wirfoddolwyr yn derbyn yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gymryd rhan.
I fod yn wirfoddolwr, mae’n rhaid ichi ddarparu ychydig o fanylion personol er mwyn inni allu trafod cyfleoedd gyda chi. You can do this online.Gallwch wneud hyn ar-lein.
