Peintio’r Dref yn GochRed
Bu i’r prosiect hanesyddol a chyffrous hwn reoli gwiwerod llwyd yn Ninas Bangor (Gwynedd) a’r dirwedd arfordirol a mynyddig 90km2 o’i hamgylch. Roedd poblogaeth gwiwer goch yn bresennol, ac yn parhau i fod yn bresennol yng nghoetir Faenol a Threborth ger y Fenai. Roedd y prosiect ar waith o 2014-2020 ac fe’i hariannwyd drwy gronfa EU LIFE14.
Heddiw, gan weithio gyda thirfeddianwyr a gwirfoddolwyr cymunedol, mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru yn parhau i ddal gwiwerod llwyd ar y tir mawr ledled 1500 hectar o gynefin.
Y nod yw ceisio diogelu poblogaethau gwiwerod coch rhag Brech y Gwiwerod a hefyd lleihau’r tebygolrwydd o wiwerod llwyd yn croesi’r Fenai.
Rydym yn profi gwiwerod llwyd am Frech y Gwiwerod yn aml gan gydweithio gyda gwyddonwyr Sefydliad Moredun.


Yn ogystal â rheoli gwiwerod llwyd, rydym yn cofnodi niferoedd y gwiwerod coch sy’n cael eu gweld. Hyd yma mae gennym ni 3,300 cofnod wedi’u cyflwyno i’n gwefan gan y cyhoedd.
Rydym yn casglu unrhyw wiwerod marw caiff eu hadrodd inni cyn eu hanfon i ffwrdd am post mortem a phrofi histolegol. Caiff hyn ei ariannu gan y Cynllun Clefydau a Bywyd Gwyllt APHA.
