Amdanom ni

Pwy ydym ni a gwaith yr Ymddiriedolaeth

Yn y 1990au hwyr, cafodd rheoli gwiwerod llwyd systematig eang ei ystyried yn aml fel opsiwn drud ac anghynaladwy ac o ganlyniad roedd gwaith cadwraeth y wiwer goch yn ad hoc ac yn dameidiog.

Roedd Esmé Kirby, sylfaenydd Cymdeithas Parc Eryri a chadwraethwr arloesol wedi’i brawychu gan fethiant asiantaethau’r llywodraeth i weithredu’n bendant i amddiffyn gwiwerod coch. Yn ei ffordd nodweddiadol gadarn a di flewyn ar dafod, aeth Esmé ati i ysgogi cefnogaeth leol ar gyfer amddiffyn gwiwerod coch ar Ynys Môn ac fe lansiwyd prosiect yn haf 1997; prosiect a oedd yn seiliedig yn benodol ar ddileu gwiwerod llwyd o’r ynys.

Ym 1998 aeth Judith Moss a Dr Raj Jones ati i sefydlu Cyfeillion Gwiwerod Coch Ynys Môn a oedd â’r bwriad o weithredu fel rhyngwyneb rhwng y prosiect a phobl leol, gan hwyluso gwirfoddoli a chymryd rhan ar Ynys Môn. Fe gynyddodd yr aelodaeth yn raddol i dros 300 gyda thanysgrifiad blynyddol cymedrol yn ariannu cynhyrchu deunydd addysg a gwe-gamera’r gwiwer goch. Cofrestrwyd fel Ymddiriedolaeth nid-er-elw yn 2007 ac yn 2010 llwyddodd y grŵp i ennill Cyllid y Loteri Dreftadaeth
https://www.heritagefund.org.uk/projects/anglesey-red-squirrel-project-island-haven.

Yn ystod 2011, bu i Gyfeillion Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Ynys Môn gydnabod y potensial i adfer gwiwerod coch i rannau helaeth o Wynedd ac fe wnaethon nhw ail-frandio fel “Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru”. Yna bu i’r Cyfarwyddwyr ymuno gyda phrosiect cenedlaethol wedi’i gydlynu gan Gymdeithas Frenhinol Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt a ariannwyd gan EU LIFE 14 https://econservation.jrc.ec.europa.eu/project/2005344

Fe wnaeth y prosiect UE hybu economi’r ynys o filiwn o bunnoedd pob blwyddyn
RSU-Cost-Benefit-Analysis-FINAL-REPORT. Heddiw mae’r Ymddiriedolaeth yn bartner arweiniol mewn prosiect pum mlynedd o hyd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o’r enw Mamaliaid Hudolus https://www.heritagefund.org.uk/news/boost-endangered-red-squirrels-and-pine-martens-north-wales

Ein Noddwr

Neges o Gefnogaeth gan Iolo Williams – Cyflwynydd Teledu, Arbenigwr ar Fywyd Gwyllt ac ein Noddwr

“Rwy’n cofio’r wiwer goch yn beth cyffredin o amgylch fy nghartref yn mhentref Llanwddyn yn Sir Drefaldwyn ond pan fyddaf yn dychwelyd yno’r dyddiau hyn, dim ond y wiwer lwyd sydd i’w gweld. Rwy wedi dilyn llwyddiant prosiect gwiwerod coch Môn yn llawn diddordeb ac mae’n bleser calon cael gweld y cochion yn taro’n ôl. Yn sgil ymroddiad rhai unigolion, mae ein gwiwer frodorol i’w gweld unwaith eto mewn sawl coetir ym Môn ac, yn y pen draw, hoffwn weld y wiwer lwyd yn cael ei gwaredu o Brydain yn gyfan gwbl. Mae’n annhebygol y gwelaf i hyn yn fy oes i ond gyda’r gwaith ym Môn yn mynd o nerth i nerth, o leiaf mae rhywfaint o obaith y caiff y cenedlaethau sydd i ddod weld hynny’n digwydd.”

Tîm Prosiect

Dr Craig Shuttleworth: Mae Craig yn meddu ar ugain mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes cadwraeth gwiwerod coch. Ef yw Cynghorydd Gwyddonol Menter y Gwiwerod Ewropeaidd.

 

Cyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru (Cyfeillion Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Ynys Môn) yn gwmni cyfyngedig drwy warant (Rhif Cwmni 6248674). Yn nodweddiadol mae gan y Bwrdd 6-12 aelod ac mae’n cynnal Cyfarfod Blynyddol.

Mr Robert Macaulay (Treasurer)

Cyfrifydd Siartredig

Mr Charles Dutton

Coedwigwr Siartredig ac Ymddiriedolwr Menter Gwiwerod Ewrop

Mrs Christina Allen

Swyddog Grantiau wedi ymddeol Cyfoeth Naturiol Cymru

Ms Natalie Chivers

Prif Guradur Gerddi Fotaneg Treborth

Ms Nikki Robinson

Rheolwr Prosiect Cadwraeth

Helen Pye

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Ms Julia Colston

Wedi ymddeol

Hanes ac Ethos yr Ymddiriedolaeth

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi credu erioed y byddai gweithredu a chymorth lleol yn sicrhau llwyddiant lleol, a’r ethos hwn sydd wedi darparu’r platfform ar gyfer y rhaglen cadwraeth gwiwerod coch sy’n bodoli heddiw.

Bu’r dasg o adfer gwiwerod coch yn llwyddiannus ar Ynys Môn ond yn bosibl yn sgil gwaith caled nifer o wirfoddolwyr a chadwraethwyr brwd.

Sefydlodd Judith Moss a Dr Raj Jones y grŵp Cyfeillion gyda chymorth Ralph Oxley (Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru), Hugh Knott (Menter Môn), Rebecca a Gareth Pritchard, Martin Bailey (Gwasanaethau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad), Robert ‘Bob’ Lowe (Cyngor Cefn Gwlad Cymru) a Dr Craig Shuttleworth.

Am dros ddegawd, rydym wedi hyrwyddo’r cyhoedd yn cymryd rhan i ddiogelu gwiwerod coch; gan ddatblygu cyfres o ddeunyddiau addysg, arwain teithiau tywys, cynghori perchnogion coetiroedd lleol am reoli a meithrin cyfleoedd i bobl weld gwiwerod coch gwyllt.

Cafodd rhan helaeth o’r gwaith addysg hwn ei feithrin gan Raymond Reynolds a Bethan Wyn-Jones ac mae wedi’i gydnabod gyda gwobrau cenedlaethol (e.e. Cwpan Ward).

Yn 2008 bu inni gydnabod y bydd angen cyllid craidd sylweddol i sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith cadwraeth ymarferol ac erbyn haf 2011 roeddem ni wedi llwyddo i gasglu bron i £400,000. Heddiw rydym yn bartneriaid rhanbarthol ym mhrosiect EU Life 14 Red Squirrels United.

Yr un flwyddyn, aeth yr Ymddiriedolaeth ati i ail-frandio fel “Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru” gan gyflwyno prosiect ar draws y dirwedd i ddileu gwiwerod llwyd o rannau sylweddol o Wynedd.

© Craig Swanson

Partneriaid Allweddol