Erbyn hyn, peth cymharol gyffredin yw gweld gwiwerod coch yn ardal Bangor, yn sgil cymorth gwirfoddolwyr a’r gwaith caled y mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru yn ei wneud.
Mae canlyniadau astudiaethau diweddar a wnaed gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor ar flew’r creaduriaid wedi dangos bod y rhywogaeth bellach wedi ymsefydlu yng ngerddi Treborth, a’u bod wedi sefydlu cynefinoedd mewn clystyrau o goed conifferaidd a choed llydanddail.
Gwelwyd y creaduriaid hefyd yn Llanberis ac yn Nyffryn Ogwen, ble fydd camau i reoli’r gwiwerod llwyd yn cychwyn yn y gwanwyn.
Os byddwch yn gweld gwiwer goch, cofiwch gysylltu â’r prosiect i ddweud!

