|
|||||
| Mae rheoli coedwig yn elfen allweddol o unrhyw strategaeth leol i warchod gwiwerod coch . Mamal y coed yw'r wiwer goch ac mae tua 70% o'i hamser sy'n cael ei neilltuo i chwilio am fwyd yn cael ei dreulio ym mrigau uchaf y goedwig. Mae'r rhan helaethaf o'i bwyd i'w gael yn y fan honno (hadau coed, ffrwythau, blodau a blagur yn bennaf) ac mae ei nythod hefyd yn cael eu codi yn uchel ar y coed.
Does dim syndod felly fod unrhyw reolaeth ar gynefinoedd y goedwig yn cael effaith fawr ar unrhyw boblogaeth breswyl o'r wiwer goch. Ym Môn, mae'r gwiwerod coch yn cael eu cyfyngu i raddau helaeth i ddwy blanhigfa gonifferaidd fawr – Coedwig Niwbwrch a Choedwig Llwydiarth, ger Pentraeth). Os yw'r gwiwerod coch am ddal eu tir ar yr ynys, ac yn wir i ffynnu yma, mae'n hanfodol ein bod yn rheoli'r ddwy safle yma'n ofalus. Cwympo coed a theneuo gellïoedd Y pwynt pwysig cyntaf i'w wneud mewn perthynas â chwympo coed yw na ddylai ddigwydd yn ystod unrhyw ran o dymor bridio'r wiwer goch pan fo cywion gwiwerod yn y nythod. I bob pwrpas mae hyn o Chwefror tan dechrau mis Hydref.
(i'r brig )
Gall teneuo fod o fudd i wiwerod coch cyn belled â'i fod yn cael ei wneud yn ofalus. Mae'n wir y gall gynhyrchu coed unigol gyda phen y goeden yn ddyfnach, sy'n cynhyrchu gwell cnwd o hadau. Ond mae'r un mor wir i ddweud fod teneuo trwm yn gallu darnio brigau uchaf y goedwig fel nad yw'r wiwer goch yn gallu symud yn rhwydd o gangen i gangen. Yn y coedwigoedd ble mae gwiwerod coch rydym yn cydweithio gyda'r Comisiwn Coedwigaeth yn ystod y cynllunio a gweithredu y rhaglen deneuo. Mae archwiliad manwl o'r argymhellion ac archwiliad o'r safle yn ein cynorthwyo i sicrhau fod cyn lleied ag sy'n bosib o effaith anffafriol y teneuo ar y gwiwerod coch. Mae partneriaeth fywiog a gweithgar gyda'r Comisiwn Coedwigaeth wedi profi'n llwyddiannus er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng gweithrediadau coedwigaeth fasnachol ac anghenion y wiwer goch. (i'r brig ) Coedwig Niwbwrch ac adfer y twyni tywod Planhigfa fawr o goed pîn yw Coedwig Niwbwrch sydd wedi ei sefydlu ar hen dwyni tywod. Yn 2004, cynigiodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynlluniau i gwympo coed a chlirio ardal eang o Goedwig Niwbwrch er mwyn creu cynefin o dwyni tywod agored. Credwn nad oes cyfiawnhad i gwympo coed ar raddfa eang yn Niwbwrch, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, mewn ymgais i greu cynefin o dwyni tywod symudol. Mae'r goedwig yn un o'r ychydig goed tiroedd yng Nghymru sydd â gwiwerod coch yn cartrefu ynddi ac mae hefyd yr un hawsaf i'w hamddiffyn oddi wrth mewnlifiad y wiwer lwyd. Y rheswm am hyn yw ei safle ddaearyddol am ei bod yn goedwig ar ei phen ei hun ar yr arfordir. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda CCGC a'r Comisiwn Coedwigaeth i sicrhau fod anghenion y gwiwerod coch yn cael eu cymeryd i ystyriaeth yn llawn yng Nghynllun Terfynol y Goedwig. Gwelwch y dudalen berthnasol ar ddyfodol Niwbwrch.
|
|
||||