|
|||||
| Cwestiynau Llafar i'r Prif Weinidog a gyflwynwyd ar 8fed Mehefin 2004 i'w hateb ar 22ain Mehefin 2004.
1. Glyn Davies: Beth yw eich polisi ar ddifa gwiwerod llwyd er mwyn helpu gwiwerod coch i oroesi? (OAQ36182)
Y Prif Weinidog : Yr ydym wedi enwi'r wiwer goch, o dan adran 74 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yn rhywogaeth sydd o'r pwysigrwydd pennaf i gadw amrywiaeth biolegol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru'n cynnal prosiect i reoli gwiwerod llwyd yn Ynys Môn. Ei fwriad yw cynyddu poblogaeth y gwiwerod coch, sydd o dan fygythiad.
2. Glyn Davies: Yn sgîl ymlediad di-ball y gwiwerod llwyd ledled Cymru, dim ond yn Ynys Môn y gwelir gwiwerod coch bellach. Mae parhad gwiwerod coch yng Nghymru'n dibynnu ar ddull cyd gysylltiedig o ddiogelu cynefinoedd yn ogystal â difa gwiwerod llwyd. A wnewch chi sicrhau na fydd yr asiantaethau hynny sydd o dan eich dylanwad—Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac yn y blaen—yn gwneud penderfyniadau fel y rhai ar dorri coed, sy'n amharu ar allu'r wiwer goch hardd i oroesi yng Nghymru?
Y Prif Weinidog: Yr ydych yn iawn wrth ddweud bod gwiwerod coch wedi'u cyfyngu i ran fach o Gymru, yn Ynys Môn, ac, felly, fod angen eu hamddiffyniad yn gadarn. Nid wyf yn sicr a ydych yn iawn wrth ddweud bod torri coed yn fygythiad iddynt, ond ymchwiliaf i'r mater hwnnw gan fod gennym ddyletswydd o ran bioamrywiaeth, ac mae gwarchod y wiwer goch wedi'i dynodi'n ddyletswydd yr ydym yn falch o'i derbyn. Gan hynny, os yw torri coed yn amharu ar gyfle'r wiwer goch i oroesi, cymerir y camau rheoleiddiol priodol.
3. Lorraine Barrett: Fel un sydd yr un mor hoff o wiwerod llwyd ag ydyw o wiwerod coch, apeliaf dros wiwerod llwyd. Os gwneir unrhyw benderfyniad i'w lladd, a allwch sicrhau, drwy ba bynnag bwerau sydd gennych, a chan weithio gyda pha bynnag asiantaethau sy'n gysylltiedig, y gwneid hynny mewn modd mor drugarog ag y bo modd? Y penderfyniad gorau fyddai peidio â lladd yr un ohonynt.
Y Prif Weinidog: Dim ond dulliau trugarog y dylid eu defnyddio i yrru gwiwerod llwyd o ardal er mwyn ehangu'r cynefin a gedwir ar gyfer gwiwerod coch. Mae'r wiwer lwyd yn gystadleuydd sy'n fwy, yn gryfach, yn fwy medrus ac yn bwyta mwy o fathau o fwyd, ac mae'n drech na'r wiwer goch. Gan hynny, yn ogystal â chlirio'r cynefin ar gyfer y wiwer goch, rhaid cael cadwyn iechydol hefyd, oherwydd firws parapocs, rhwng y gwiwerod llwyd a'r rhai coch. Deallaf yr hyn a ddywedwch. Nid oes amheuaeth, a chredaf fod Glyn Davies wedi sôn am hyn yr wythnos diwethaf, nad yw gwiwerod llwyd yn ddeniadol. Mae plant wrth eu bodd â hwy—a gwiwerod llwyd bach yn benodol. Ceir llawer ohonynt o gylch fy nhy, ac maent yn ddigon o ryfeddod i'w gwylio yn y bore. Er hynny, maent yn fygythiad mawr i'r wiwer goch. Yr ydym o dan orfodaeth gadarn o ran cadwraeth i ddiogelu'r ychydig wiwerod coch sy'n weddill yng Nghymru, ac eir ynghylch hynny.
4. Brynle Williams: Cytunaf â Lorraine Barrett fod rhaid rheoli'r wiwer lwyd, ond i hynny gael ei wneud drwy ddulliau trugarog. Mae gennym lawer o broblemau yn y Gogledd hefyd, gan fod gwiwerod llwyd yn dinistrio planhigfeydd bach a mathau llai o fywyd gwyllt. A wnewch ystyried y mater hwn o ddifrif? Ymddengys ei fod yn cael ei drin braidd yn ysgafn y prynhawn yma, ond mae'n ddifrifol.
Y Prif Weinidog: Yn wir—mae'r wiwer lwyd yn dinistrio cnydau a choedwigoedd, a choed ifanc yn benodol. Fodd bynnag, yr ydym yn ystyried a all fyw ochr yn ochr â'r wiwer goch. Dengys y dystiolaeth na all. Byddant yn drech na hwy gan eu bod yn fwy, yn gryfach, yn bwyta mwy ac yn fwy epilgar a byddant yn eu gwthio i'r môr, os caf ei roi felly, a bydd gwiwerod coch yn diflannu'n llwyr. Ni adawn i hynny ddigwydd.
|
|
||||