Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn
Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion

   Gwiwerod Coch ar Ynys Môn

Roedd y wiwer goch yn gyffredin ym Môn unwaith ac yn arbennig yn y coed llydanddail sy'n ffinio glannau'r Fenai. Roedd y rhywogaeth hefyd yn cael lloches a bwyd yn y planhigfeydd conifferaidd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar Fynydd Llwydiarth a Chwningar Niwbwrch yn ystod pumdegau'r ganrif ddiwethaf. O ddechrau'r saithdegau, fodd bynnag, gwelwyd y wiwer lwyd yn amlach ar yr ynys. Roeddynt naill ai wedi nofio Afon Menai neu wedi croesi ar draws un o'r ddwy bont. Erbyn canol yr wythdegau roedd y wiwer goch wedi diflannu o'r coedydd ar sawl ystad fawr gan gynnwys Stad Bodorgan, tra roedd poblogaeth y wiwer lwyd yn cynyddu'n g yson.


Hanes gwiwerod coch ar yr ynys

Mae adroddiadau'n awgrymu fod poblogaeth y wiwer goch was gostwng yn gyflym, ac yn ystod y nawdegau roedd cip olwg o'r wiwer goch yn gymharol brin. Erbyn 1997, credwyd mai yn y planhigfeydd conifferaidd ar Fynydd Llwydiarth (cymysgedd o goed sbriws, llarwydd a phîn) a choedwig Niwbwrch (pinwydd Corsica yn bennaf) yn unig roedd y wiwer goch. Yn anffodus roedd canlyniadau maglu yn ystod 1998 yn awgrymu mai dim ond ar Fynydd Llwydiarth roedd y wiwer goch yn bodoli bellach.

Cychwynnwyd rhaglen o gadwraeth y wiwer goch ar yr ynys ym mis Ionawr 1998. Roedd hon wedi ei sylfaenu'n bennaf ar reolaeth systematig o'r wiwer lwyd drwy ei maglu mewn caets.

( yn ôl i ben y dudalen )

Gweithredu i achub y gwiwerod coch

Erbyn hyn gwyddom nad oedd ond 40 o wiwerod coch (oedolion) yn weddill ym Môn. Roedd y boblogaeth yma'n byw o fewn y 244 hectar o blanhigfa fasnachol, gonifferaidd ar Fynydd Llwydiarth ac yn gydgynefinol gyda niferoedd sylweddol o'r gwiwerod llwyd. Cafwyd hyd i rai miloedd o wiwerod llwyd eraill mewn coedwigoedd llydanddail ar yr ynys.A grey squirrel - Image copyright Hunt4squirrel.com

Cafodd y gwiwerod llwyd eu difa o Coedwig Llwydiarth ac fe wnaeth mesurau rheoli leihau pwysau'r mewnfudo'n sylweddol. Yn ystod y cyfnod 2000-2002 tair o wiwerod llwyd yn unig a faglwyd o fewn i'r goedwig gonifferaidd hon. Ymatebodd y boblogaeth o wiwerod coch yn bositif i reolaeth o'r wiwer lwyd a gwelwyd codiad dramatig yn niferoedd y gwiwerod coch (oedolion) yn y gwanwyn ac ymledol o ddosbarthiad y boblogaeth yn y goedwig. ( yn ôl i ben y dudalen )

Ymateb dramatig i ddifa'r gwiwerod llwyd

Fe wnaeth cyfradd ffafriol o wiwerod coch (oedolion) oedd yn goroesi ac yn atgenhedlu, yn ogystal â nifer dda o rai bach yn cael eu geni a'u magu (75%), arwain at ddyblu'r boblogaeth o'r wiwer goch erbyn gwanwyn 2000. Yn y ddwy flynedd ddilynol fe wnaeth y boblogaeth ddod yn agos at hynny all y blanhigfa ei gynnal ac fe syrthiodd nifer y gwiwerod ifanc i 40% (yn ystod 2000/01) ac wedyn 16% (yn ystod 2001/02). Yng ngwanwyn 2002, roedd yna tua 80 -95 o wiwerod coch (oedolion) ar yr ynys.

Yn ystod gaeaf 2000/01 y cafwyd y cofnodion dibynadwy cyntaf o wiwerod coch yn chwilio am fwyd yn y gellïoedd llydanddail cyfagos at y blanhigfa. Yn ystod haf 2001 darganfuwyd torllwyth yng nghoed cyll Wern y Wylan. Yn ystod misoedd yr hydref golygfa gyffredin oedd gweld gwiwerod coch o'r goedwig yn elwa ar y cnwd o gnau cyll ar y safle hon. Fodd bynnag, roedd data a gasglwyd o faglu'r gwiwerod coch yn fyw yn dangos fod yna nifer fechan o unigolion oedd yn byw yn unig yng nghoedydd llydanddail Wern y Wylan a Phlas Gwyn.

A red squirrel reintroduction programme

Rhaglen ail gyflwyno'r wiwer goch

Mae ymlediad daearyddol poblogaeth y wiwer goch ar Fynydd Llwydiarth yn un sydd braidd yn gyfyngedig. Mae'r coedlannau cyfagos yn gymharol fach a does fawr o gyfle i ymledu i gynefinoedd sydd ymhellach draw am nad oes yna rodfeydd addas e.e. gwrychoedd a gorchudd o goed. Felly, er mwyn hyrwyddo ymlediad y niferoedd ar yr ynys, cychwynnwyd rhaglen ail gyflwyno yn 2003 ar blanhigfa binwydd sydd ar ei phen ei hun.

Adult Red Squirrel

Y dyfodol

Mae'r gwaith a wnaed yn ystod pum mlynedd cyntaf Prosiect y Wiwer Goch ym Môn wedi ffurfio Rhan 1 o raglen gadwraeth sy'n cael ei gyflwyno'n raddol. Yn ystod y cyfnod 2003 – 07 (Rhan 2) bydd y pwyslais yn ehangu i gynnwys ail gyflwyno gwiwerod coch, rheoli'r cynefin yn y tymor hir a chyfannu'r prosiect gwiwer goch ymhellach i raglenni economaidd gymdeithasol a reolir gan Menter Môn. Rhagwelir y bydd poblogaeth y wiwer goch yn datblygu i fod yn un o atyniadau naturiol mwyaf yr ynys.

Fodd bynnag, mae llawer o waith i'w wneud, ac ni ellir cyflawni'r gwaith heb gefnogaeth weithredol y gymuned leol. (yn ôl i ben y dudalen )

©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn HafanDigwyddiadauCysylltwchYn ôlRhoddion