Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn

Penawdau

England set to abandon red squirrels full story...

Y Comisiwn Coedwigaeth yn cefnogi gwiwerod coch Môn gyda chynllun newydd i blannu coed. Y stori'n llawn...

Gwiwerod coch sy'n wyn? Gwiwer fach newydd yng nghoedwig Niwbwrch. Y stori'n llawn...

Y wybodaeth ddiweddaraf am ailgyflwyno. Tybed fydd 2005 yn flwyddyn fridio wych yng nghoedwig Niwbwrch? Y stori'n llawn...

Cynhadledd Rhywogaethau Estron – Mehefin 2005 Mwy o fanylion...

Cartwn gwiwer newydd Clicwch i weld...

Galeri fideo gwiwerod coch gwyllt Y lluniau fideo diweddaraf...

Hand rearing red squirrels Find out more...

Red squirrel at Plas Gwyn 2003

Cefnogaeth Leol, Gweithredu Lleol, Llwyddiant Lleol

Gobeithiwn y bydd y safle hon yn rhoi cyfle i chwi ddysgu mwy am ein gwaith ym Môn. Os dymunwch, gall hefyd roi cyfle i chwi gefnogi'n gadarnhaol i warchod a chynnal y wiwer goch ar yr ynys.

Mae cefnogaeth leol wedi bod yn amhrisiadwy yng nghadwraeth y wiwer goch frodorol. Poblogaeth y gwiwerod coch ym Môn yw'r ail fwyaf yng Nghymru, a dyma'r unig boblogaeth sydd â chyfle i fodoli heb y gwiwerod llwyd. Ym Môn hefyd mae'r unig goedwig lydanddail ble y ceir gwiwerod coch sy'n bridio. Ydych chi eisiau darganfod mwy am wiwerod coch Môn?

Wel, mae'n rhwydd, cliciwch ar y dolennau a llywiwch drwy'r safle.

 

Iolo Williams

Neges o gefnogaeth gan Iolo Williams – Cyflwynydd ac Arbenigwr ar Fywyd Gwyllt

 

Rydw i'n cofio fod gwiwerod coch yn gyffredin o amgylch fy nghartref ym mhentref Llanwddyn yng ngogledd Sir Drefaldwyn ond pan fydda i'n dychwelyd y dyddiau yma, dydw i'n gweld dim ond gwiwerod llwyd. Rydw i wedi dilyn llwyddiant prosiect Gwiwerod Coch Môn gyda diddordeb mawr am ei fod mor galonogol i weld y gwiwerod coch yn dod yn ôl. Diolch i ymroddiad rhai unigolion, mae modd gweld ein gwiwer gynhenid unwaith eto mewn sawl coedwig ym Môn ac yn y pen draw mi fyddwn i'n hoffi gweld y gwiwerod llwyd yn cael eu difodi o Brydain i gyd. Mae'n annhebygol y bydd hyn yn digwydd yn ystod fy oes i ond gyda'r gwaith ym Môn yn mynd o nerth i nerth, o leiaf mae yna rywfaint o obaith ar gyfer yr oes a ddêl.'

Y Newyddion Diweddaraf

Mae'r torllwyth cyntaf o wiwerod coch a aned yn Niwbwrch yn ystod 2005 wedi eu diddyfnu. Gwelwyd tair gwiwer ifanc ar 10fed Mawrth eleni mewn blwch nythu yn agos i'r fan ble rhyddhawyd y gwiwerod coch. Roedden nhw tua chwech i saith wythnos oed ac erbyn hyn gwyddom eu bod wedi eu diddyfnu ddiwedd Mawrth. Y llynedd diddyfnwyd y torllwyth cyntaf o wiwerod coch ifanc yn nechrau Mai ac felly cawsom ein synnu o weld y rhai ifanc wedi datblygu cystal erbyn dechrau Mawrth. Yn 2004, ganed cyfanswm o 23 o wiwerod coch yn y goedwig a gobeithiwn y bydd 2005 hefyd yn flwyddyn dda.

Lluniau diweddaraf o'r safle rhyddhau

Bydd y Cyfeillion yn codi blychau nythu a hopranau bwyd ychwanegol yng nghoedwigoedd Niwbwrch a Mynydd Llwydiarth yn ystod y misoedd nesaf. Cyhoeddir y dyddiadau ar ein tudalennau Digwyddiadau – felly cofiwch edrych yn rheolaidd!

Initializing...
Cute little red squirrel Amdanom ni | Polisi preifatrwydd | Cysylltwch â ni | Webmaster | (h) 2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn