|
Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | ||||
|
|
| Chwilio am wiwerod coch
Eleni, trefnodd Bethan, ein swyddog addysg, nifer o weithgareddau i blant ysgolion cynradd Môn. Mae plant o ysgolion Talwrn, Garreg Lefn, Cemaes a Llandrygarn wedi ymweld â choedydd Wern y Wylan i ddysgu am gynefin a chadwraeth y wiwer goch. Gwelsant rai o'r blychau nythu arbennig godwyd ar gyfer y gwiwerod coch a hefyd hopran fwyd. Ni welwyd y wiwer goch, ond fe welwyd olion bwydo gwiwerod gan gynnwys cnau y gollen wedi eu hollti. Fe wnaeth plant Ysgol Esceifiog, Gaerwen hefyd ymweld â choed Wern y Wylan ac maen nhw wedi adrodd yr hanes ar wefan yr ysgol.Edrychwch ar Oriel yr Ysgolion i weld mwy o luniau ymweliadau addysgol. Rydym ar fin cynhyrchu pecyn addysg dwyieithog ar gyfer athrawon. Mae gwybodaeth ynddo yng Nghymraeg a Saesneg am wiwerod coch a dewis o weithgareddau fel gemau, pysl a lluniau i'r plant eu lliwio. Yn y cyfamser dyma dudalen ffeithiau am y wiwer goch y gellwch ei lawr lwytho. Beth am drio ein cwis am y wiwer! Anfonwch eich lluniau
|
Cysylltwch â ni Rydym bob amser yn falch o dderbyn gwaith celf a lluniau o goedwigoedd a gwiwerod coch. Byddwn yn cyhoeddi detholiad o'r lluniau'n rheolaidd ar ein gwefan. Gellwch anfon deunydd i ni drwy'r post, ar e-bost neu fel ffeiliau jpeg. I anfon deunydd neu am fwy o fanylion, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.Mae gennym ddetholiad o luniau o Ysgol y Talwrn yn ein oriel o luniau plant...
|
| ©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion |