Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn
Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion

   Gwaith y Cyfeillion

Sefydlwyd grwp y Cyfeillion yn 1999 gan drigolion Môn oedd yn dymuno cynorthwyo i ddiogelu'r boblogaeth fechan o wiwerod coch oedd ar yr ynys. Mae aelodaeth nid yn unig yn gymorth i ni gyllido'r gwaith ym Môn ond hefyd yn rhoi mandad gwleidyddol i ni lobïo'r llywodraeth i sicrhau fod y gwiwerod coch yn cael eu diogelu'n gyson.


Fel Aelod o'r Cyfeillion

  • Byddwch yn derbyn cylchlythyr rheolaidd, sticer car a llenyddiaeth yn rhoi gwybod yn gyson i chi am gynnydd y gwaith
  • Gellwch ddod yn weithredol yn un o raglenni mwyaf heriol cadwraeth yn y DG
  • Gellwch weithredu ar lefel sylfaenol; plannu coed, adeiladu blychau nythu, darparu cyflenwad bwyd i'r wiwerod a chynorthwyo ar ein stondinau gwerthu.
  • Mae ein gwaith i gyd yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr sy'n aelodau.

Gellwch hefyd fod yn dawel eich meddwl nad oes dim o'r arian sy'n cael ei godi drwy dâl aelodaeth, rhoddion neu werthiant nwyddau yn cael ei ddefnyddio i dalu staff cyflogedig y prosiect. Mae pob ceiniog o'n harian yn cael ei ddefnyddio i brynu deunyddiau a chyfarpar, neu i gyllido ymchwil gwyddonol angenrheidiol.

Y tâl aelodaeth presennol yw £10 yr aelod.

I Ymuno cliciwch ar ffurflen aelodaeth i'w hargraffu a gwnewch sieciau'n daladwy i:

Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn'

Anfonwch eich siec, gyda'ch enw a'ch cyfeiriad i:

 

Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn

Llys Goferydd

Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni

Llangefni Ynys Môn LL77 7XA

    Bod yn rhan

 

Mae'r Cyfeillion yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng y gymuned leol a'r asiantaethau cefn gwlad sy'n gysylltiedig â chadwraeth y wiwer goch. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o wiwerod coch Môn, yn ceisio hysbysebu'r gwaith sy'n cael ei wneud i'w diogelu ac yn adnabod ffactorau sy'n bygwth eu goroesiad.

Beth am ymuno â ni a'n cynorthwyo yn y gwaith pwysig hwn?

Mwy>>

 

Mae gweithredu lleol yn gallu gwneud gwahaniaeth wrth ddiogelu'r wiwer goch.

 

Byddwch yn gallu talu ar-lein yn fuan gan ddefnyddio'r dolennau isod.


©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn HafanDigwyddiadauCysylltwchYn ôlRhoddion