|
Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | ||||
|
|
| Pan gychwynnodd y prosiect yn 1998, dim ond yn y blanhigfa gonifferaidd fasnachol ar Fynydd Llwydiarth roedd gwiwerod coch ar ôl ym Môn. Cododd y boblogaeth yn fuan ar ôl cychwyn difa'r wiwerod llwyd o'r blanhigfa, ac er fod y wiwerod wedi llwyddo i gytrefu'r goedwig lydanddail cyfagos, roedd yn ymddangos fod cryn anhawster yn eu hwynebu i ledaenu i ardaloedd eraill oherwydd fod cyn lleied o goed a'r rheiny ymhell oddi wrth eu gilydd. O ganlyniad, yn 2002 cymerwyd camau i ailgyflwyno'r wiwerod coch yn ôl i goedwig Niwbwrch. Yn wreiddiol roedd y gwaith yn golygu canolbwyntio ar glirio wiwerod llwyd o goedwig Niwbwrch. Unwaith roedd y niferoedd wedi gostwng yn sylweddol, cafwyd wiwerod coch (oedolion) a fagwyd mewn caethiwed o gasgliad swolegol y Sw Fynydd ym Mae Colwyn. Roedd y Sw wedi cynnal dau brosiect ail gyflwyno yn flaenorol, ac er nad oedd y canlyniad yn llwyddiannus, roedd wedi esgor ar wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer protocol rhyddhau.
Cafwyd gwiwerod blwydd oed, dwy fenyw a phedwar gwryw, yn gynnar yn 2003, a daeth grwp bychan o oedolion i ymuno gyda'r rhain. Erbyn gwanwyn 2004, roedd casgliad o 11 o oedolion oedd yn bridio wedi ei sefydlu. Ym mis Mai, rhyddhawyd un fenyw a dau wryw i'r gwyllt. Fe wnaethon nhw atgenhedlu ac fe wnaeth y fenyw esgor ar ddau dorllwyth gyda tri o gywion yn y torllwyth cyntaf a phedwar yn yr ail dorllwyth. O'r pedwar oedolyn benyw oedd ar ôl, methodd un â bridio, ond fe wnaeth y dair arall gan esgor ar bum torllwyth gyda chyfanswm o 16 o gywion. Ym mis Medi 2004, rhyddhawyd yr anifeiliaid ifanc i'r goedwig.
Bu farw nifer fechan o'r anifeiliaid bridio yn ystod gaeaf 2004/5 ac fe gaed stoc newydd i gymryd lle'r rhai fu farw. Erbyn mis Mawrth 2005, roedd y casgliad yn cynnwys tri phâr ac un triawd (dau wryw ac un fenyw). Dylai monitro'n ddiweddarach yn y flwyddyn ddangos faint o'r wiwerod ryddhawyd y llynedd sy'n dal yn fyw, a faint sy'n bridio. Ar 10fed Mawrth gwelwyd y torllwyth cyntaf (tri chyw) mewn blwch nythu yn agos i'r safle rhyddhau. Mae'r astudiaeth ailgyflwyno yn dal mewn cyfnod cynnar a bregus iawn, ond mae'r canlyniadau cychwynnol yn galonogol, ac mewn cyd destun Cymreig, mae'n debyg fod y boblogaeth hon y drydedd fwyaf yng Nghymru (gyda Clocaenog a mynydd Llwydiarth gyda mwy o unigolion). Credwn fod Môn, fel ynys, yn cynnig cyfle unigryw i wrthdroi'r patrwm difodiant y wiwer goch yn lleol. Mae'r gwaith ail gyflwyno'n chwarae rhan bwysig, yn wir rhan hanfodol, fydd yn ein cynorthwyo i gynnal y gwiwerod coch, a hefyd i gyflawni gweledigaeth syml Esmé: “ I wneud Môn, unwaith eto, yn wlad y wiwer goch ”
|
|
| ©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion |