|
Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | ||||
|
|
|
Micky
Mi hoffwn i rannu hefo chi fy mhrofiadau hefo Micky, fy ngwiwer bach goch i – fy nghyfaill pennaf am tua dwy flynedd, ac a roes y cyfan i fachgen bach eithaf unig. A dydi'r bachgen bach hwnnw erioed wedi anghofio ei gyfaill bach, a wnaiff o byth. Roedd gennym ni gi. Roedd ganddo galon llew, ac felly mi gafodd yr enw ‘Llew' pan ddaeth o atom ni'n flwydd oed. Mi roddodd fy nhad bum swllt i un o'r potswyr lleol amdano. Un dydd Sadwrn roeddem ni'n dau i fyny ar yr hen ffordd Rufeinig uwchben Glyn Arthur wrth droed Moel Arthur ar draws y dyffryn o fferm fy Ewyrth Tom, pan ddechreuodd o gyfarth wrth droed draenen dal a thrwchus. Wrth edrych i fyny dyma fi'n gweld dwy wiwer ifanc wedi'u dal yn y pigau trwchus ychydig yn is o lawr o'u nyth oedd uwchben. Doedd yna ddim golwg o'r fam ac mi ddes i'r casgliad fod yna ryw anhap wedi digwydd iddi. Roedd yn amlwg na fyddai'r ddwy wiwer fach ddim byw yn hir ac roedd yn amhosibl i mi ddringo drwy'r brigau gyda dwylo noeth a throwsus cwta. Felly mi redodd Llew a minnau i lawr i Gales Bach, ac er fy mod allan o wynt dyma adrodd y stori wrth Modryb Emma. Dyma fenthyg pâr o fenig plygu gwrych lledr Ewythr Tom, hen siaced a hen sach i'w roi o gwmpas fy nghoesau. Wedi cyrraedd yn ôl dyma wneud fy ffordd i fyny boncyff yr hen ddraenen ac er fy mod wedi ceisio diogelu fy hun, roedd gen i sgriffiadau dros fy nghorff i gyd ac yn arbennig fy wyneb. Wedi cyrraedd y cywion gwiwerod, mi welwn i eu bod yn ifanc iawn ac nad oedd eu llygaid wedi agor yn llawn. Fe rhois i nhw yn fy mhoced a dal i ddringo i gyfeiriad y nyth. Mae nyth gwiwer goch yn amddiffynfa gref a phan mae'r fam yn gadael ei rhai bach i chwilio am fwyd, mae'n cau'r mynediad i'r nyth hefo brigau pigog i atal unrhyw anifail ysglyfaethus rhai bwyta ei rhai bach. Wn i ddim beth mae gwiwerod llwyd yn ei wneud: fermin ydyn nhw, llygod mawr y coed sydd wedi gyrru ein gwiwerod coch annwyl ni allan o'u cynefin. Yn sicr does yna ddim gwiwerod coch heddiw yn fy hen gynefin i ble roeddwn i'n arfer hela. Roeddwn i'n saethu'r gwiwerod llwyd heb feddwl ddwywaith. Ar ôl cyrraedd y nyth mi welwn nad oedd y fam wedi cau'r fynedfa a mi wnes hefyd ddarganfod dau gyw arall yn farw. Roedd hyn yn profi i mi fod y fam hefyd yn farw. Dim ond prin anadlu oedd y ddwy yn fy mhoced – efallai fod gwres fy nghorff wedi bod o gymorth. Pan ddychwelais i Gales Bach meddai Modryb Emma, “Wnawn nhw ddim byw.” Ac mi ddwedodd Mam a Dad ‘run peth. Wel, mi wnes i bacio bocs sgidiau bach hefo hen rhacs a gwlân cotwm tra'n ceisio penderfynu os y buasai llefrith buwch yn rhy gryf iddyn nhw. Mi benderfynais y gallasai eu boliau bach nhw fedru dal y llefrith tawn i yn rhoi ychydig o ddwr cynnes hefo fo. Wrth gwrs, heblaw am y ffaith eu bod yn ddall, roedden nhw'n rhy ifanc o lawer i fedru llepian y llefrith. Felly, dyma fi'n rhoi darn bach o fara mewn mwslin, ei glymu ag edau, ei roi yn y llefrith a'i ddal at eu cegau bychain. Fe weithiodd. Fe wnaeth y ddwy yn eu tro ddal y bara wedi'i fwydo nes iddyn nhw syrthio i gysgu. Y noson honno roedd y ddwy yn cysgu yn eu bocs yn fy ngwely i. Ddwywaith yn ystod y nos fe es i lawr y grisiau gyda fy nghannwyll i oleuo'r stôf ‘ primus' i gynhesu'r dwr er mwyn teneuo'r llefrith. Drannoeth roedden nhw'n dal i sugno eu bara a llefrith ac meddai Mam, “mi ddalies i ddwy chwannen yn dy wely di'r bore ‘ma.” Drwy lwc mi ges i hyd i'r gwiwerod yn ystod y gwyliau neu fuasen nhw ddim wedi cael cystal sylw. Fel maen digwydd ar y trydydd diwrnod roedd eu hymddygiad yn achosi pryder i mi; roedden nhw fel petaen nhw'n dal eu gafael yn eu boliau mewn poen. Mi gredais i mai'r bara oedd yn achosi iddyn nhw fod yn rhwym ac mi rois i ddiferyn o ‘ liquid paraffin' (roedd Mam yn arfer ei roi i mi bob nos Wener) ar ben matsien wrth flaen eu trwyn. Yn ddiweddarach, fe fu un farw, y fanw Minnie, oedd hi, ond fe wnaeth y llall, Micky, fyw. Roedd yn rhaid newid y diet – dim bara. Mi benderfynais ar lefrith yn unig a chael y syniad gwych o ddefnyddio ffiol wydr fechan gyda balwn rwber ar ei phen roedd Dad yn ei ddefnyddio i brofi croniaduron y radio cyn mynd â hi i siop Evan Jones yn Ninbych. Mi gafodd Dad un arall o'r siop. Mi weithiodd hwn yn iawn ac yn araf bach mi gafodd Micky lefrith buwch cyflawn. Yn ddiweddarach, fe ychwanegwyd wy colomen at y llefrith. Mi agorodd ei lygaid yn ystod yr ail wythnos a dechrau cymeryd sylw o'r pethau o'i gwmpas. Mi gysgodd yn fy ngwely am gryn amser ac roedd o wrth ei fodd yn cwtsio i fyny dan fy nghesail. Roedd o'n fuan iawn yn dangos beth roedd o'n ei hoffi: roedd o'n hoff o India corn a'r ciblau roedden ni'n ei fwydo i'r ieir. Hefyd stwnsh, wyau, llefrith, darnau o wreiddiau roeddwn i'n eu codi o'r coed a darnau o afal. Yn ddiweddarach mi ges fy nghadw'n brysur yn casglu cnau, mes a chnau castan i fodloni ei chwant. Fel roedd amser yn cerdded fe ddwedodd Mam fod yn rhaid i mi ei fwydo yn y ty golchi yn y cwt roedd Dad wedi'i wneud iddo – o'r blaen roedd o'n cael mynd drwy'r ty fel y mynnai. Ei hoff fangre i agor mes neu i hollti cnau oedd ar ben y llenni yn yr ystafell fyw ac o'r fan honno mi fyddai'n chwalu'r gweddillion i bob cornel o'r ystafell. Doedd yna ddim glanhawyr trydan yn yr oes honno – wel, ddim mewn cartrefi cyffredin o leiaf, ac felly roedd Mam braidd yn flin ar brydiau. Un diwrnod fe aeth Micky ar goll am oriau a daethom i'r casgliad ei fod wedi dianc allan drwy ddrws y cefn, ond ar ôl i mi fynd i'r gwely yn fy nagrau fe alwodd Dad arna i a dangos i mi ble roedd o'n cysgu'n sownd. Doedd gennym ni ddim cwpwrdd dillad ond roedd Mam wedi ffitio llenni hir ar draws cilan fechan oedd gennym arth ochr a phen y grisiau er mwyn i ni hongian ein “dillad gorau” yno. Dim ond un gôt oedd ganddi hi yno – un gyda choler ffwr, reit ffasiynol (i'r Capel yn unig), a dyna ble roedd Micky wedi rowlio i fyny ac yn cysgu'n drwm. Pan fyddai Dad yn cyrraedd adref o'r gwaith, wedi iddo eistedd yn ei gadair freichiau bren a rhoi ei slipers am ei draed, mi fyddai Micky'n ymddangos gan glebran yn brysur, rhedeg at Dad, i fyny coes ei drowsus ac ar ei ysgwydd i gnoi ei glust, neu, os cai o'r cyfle i frathu neu ddianc hefo cetyn Dad. Roeddwn i'n gwneud fy ngwaith cartref un noson yn yr ystafell ganol pan ofynnodd Mam i mi fynd i fwydo'r ieir. Wrth frysio mi anghofiais roi top ar y botel inc, ac ar ôl dychwelyd, mi welais fod y coblyn bach wedi cnoi'r corcyn yn ddarnau mân, wedi troi'r botel inc trosodd ac wedi dawnsio dros fy llyfrau gyda thraed wedi eu mwydo mewn inc. Sôn am ddagrau! Un noson dyma Mam a Dad yn eistedd hefo mi ac yn ceisio egluro'n lletchwith am ddirgelion atgenhedlu. Roedden nhw'n fy rhybuddio y byddai'r dydd yn dod pan fyddai'r alwad o'r gwyllt yn ormod i Micky ac y byddai'n rhaid iddo ddychwelyd i ddarganfod cymar. Doedd dim iws i mi ddweud y byddwn i'n dringo Moel Arthur a chwilio am wraig iddo. Roedd yn rhaid gadael i bethau fod. Yn ystod y flwyddyn gyntaf roedd o i weld yn ddigon hapus yn creu llanast ar ei ôl. Yn ystod y gaeaf roedd o'n cysgu cryn dipyn, yn fy llofft yn bennaf , ond pan ddaeth yr ail wanwyn heibio roedd fel pe bai bywyd newydd yn dod heibio. Un diwrnod roedd Mam wedi lluchio corn i'r ieir ar yr iard. Drwy ffenestr y gegin fe welodd Micky'n rhedeg o'r ty golchi i fwyta'r bwyd. Mae'n rhaid ei fod wedi dychryn yr ieir gan iddyn nhw godi'n un haid a chwifio eu hadenydd. Fe redodd Micky ar draws yr iard, neidio'r afon a diflannu i'r coed. Pan ddes i adref o'r ysgol mi dorrais fy nghalon. Mi dreuliais oriau – dyddiau – wythnosau yn y coed yn galw ei enw ac yn cynnig ei hoff fwyd iddo. Unwaith, a dim ond unwaith fe ddangosodd ei hun yn uchel i fyny mewn derwen heb fod ymhell o'r goeden a phan elwais i arno fe neidiodd i'r canghennau isaf. Roeddwn i'n gallu gweld ei fod wedi cynhyrfu am ei fod o'n clebran ac yn rhochian fel roedd o'n arfer gwneud wrth gyfathrebu hefo mi. Yna roedd o wedi mynd. Am byth. Mi ddysgodd Micky lawer i mi. Sut i garu, chwarae, cael hwyl, a pharchu pob anifail a bod yn garedig hefo nhw. Am hir iawn wedyn roeddem ni'n dal i ddarganfod ei drysorau y tu ôl i blanhigion, clustogau, yn y bocs sgidiau, dan garped y grisiau. Yno y byddai gwniaduron Mam, cetyn sbâr Dad, pensiliau, fy rhwbiwr ysgol i a sawl ceiniog. Diolch Micky am y llawenydd ddaeth hefo ti – i Mam a Dad hefyd. Roeddwn i'n gwybod er na fydden nhw byth wedi cyfaddef eu bod hwythau hefyd yn ei garu o! Leonard R. Dew |
| ©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion |