|
Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | ||||
|
|
| Ddydd Sul, y pumed o Fehefin, daethpwyd o hyd i wiwer goch fenywaidd oedd wedi marw mewn bocs nythu. Roeddem yn gwybod fod y wiwer yn rhoi llaeth, a daethom o hyd i'r cywion mewn bocs nythu cyfagos. Casglwyd y pedwar o'r rhai bach at ei gilydd, yn wan ac yn sych am eu bod wedi bod heb ddiod, a'u symud er mwyn eu magu a llaw. Dyma eu stori..... Read about the story of Micky...
Rydw i wedi magu gwiwerod coch â llaw o'r blaen, ond aelodau o'r cyhoedd oedd wedi dod â rhai i mi bob tro. Byddai'r diwrnod yn dechrau â galwad ffon, byddai trefniadau'n cael eu gwneud i ddod a'r gwiwerod ata i, ac mi fyddai digon o amser i ddod o hyd i gaets a bocs nythu priodol a'u gosod yn barod. Yn fyr, roedd amser i baratoi. Y tro yma, roedd llawer mwy o frys. Roeddwn wedi cael rhyw deimlad y byddai'r fam hon wedi marw gan nad oeddwn wedi ei gweld allan yn y lloc drwy'r dydd. Fodd bynnag heb ysgol gallwn i ddim sbecian yn rheolaidd i mewn i'r bocsys nythu yn y lloc. Llwyddais i ddringo a hongian yn simsan oddi ar wal y lloc, gan lwyddo i ymestyn yn ddigon pell i gyrraedd y bocs oedd yn cael ei defnyddio ganddi fel lle i fagu'i chywion, ond gallwn i ddim gweld gwaelod y bocs yn iawn. Roeddwn i mewn cyfyng gyngor, ond llwyddais i dynnu'r bocs yn rhannol rydd oddi wrth y coedydd oedd yn ei ddal, dim ond i ddarganfod ei fod yn wag ... Roedd yr ail focs y dringais i ato wedi ei gysylltu'n fwy sownd at y lloc, ond wrth imi guro'n ysgafn ar ei waelod, neidiodd neu syrthiodd nifer o wiwerod bach allan drwy'r twll mynediad. Roeddent yn symud yn chwithig, ond, eto i gyd, erbyn i mi gyrraedd y ddaear, roedd tri allan o'r pedwar wedi llwyddo i ddianc o'm gafael i. Doedd dim golwg o'r oedolyn benywaidd, er, erbyn hyn, roedd y gwryw wedi dod allan o un o'r bocsys uchaf ac yn dweud y drefn yn ffyrnig wrtha' i. Roedd hi'n dechrau tywyllu, felly gadewais er mwyn casglu set o ysgolion o Fynydd Llwydiarth ond yn gyntaf es i'r Sw Fynydd Cymreig sy'n daith o ryw 50 milltir. Yn y Sw cefais rwyd dal, caets bwji, a nifer o chwistrellau a phipedau, a Welpi (llaeth powdwr cwn bach). Yn ôl yn y llociau, ac i dorri stori hir yn fyr, roedd yr oedolyn benywaidd yn farw (mae adroddiad y ‘Post Mortem' ar gael i'w dadlwytho), a drwy symudiad cymhleth yn y tywyllwch dudew, a gyda cymorth tortsh bach llaw, gadewais gyda bocs yn cynnwys pedair wiwer fach goch. Roedd hi bron yn hanner nos.
Beth yw eu hoedran? Y cwestiwn cyntaf i'w ateb oedd beth oedd eu hoed? O brofiad, gwyddwn eu bod yn 6-7 wythnos oed; roedd ganddynt ddannedd blaen bach, twffiau clust 5mm o hyd ac roeddent yn gallu dringo (er braidd yn simsan). Datblygiad yr Ifanc (Atgynhyrchwyd o Gofnod FC 101 (1975) Dr A.M. Tittensor) Ar enedigaeth Dall, heb ddannedd, clustiau ar gau, di-flew. Blew cyffyrddol ac ewinedd gwyn yn bresennol. Bodiau wedi'u cysylltu. Pwysau 10 -15 g Wythnos 1 Llabedau clustiau yn dechrau sefyll allan. Dannedd blaen is i'w teimlo fel lympiau meddal. Lliwiau'n ymddangos ar y cefn ar ôl 5-6 diwrnod. Diwedd Wythnos 1 Blew yn datblygu, ac yn ymddangos ar ôl 8 diwrnod. Wythnos 2 Bysedd traed blaen yn gwahanu ar 8-9 diwrnod, a'u dilyn gan y traed ôl ar 11-12 diwrnod. Corff wedi ei orchuddio â mân flew tenau ar 13 diwrnod, Diwedd Wythnos 2 Deintgig y dannedd isaf yn chwyddo. Wythnos 3 Ffwr ar y gynffon ar 16 diwrnod. Blew byr a thrwchus dros y corff ar 19 diwrnod, Diwedd Wythnos 3 Blew ar ymyl y clustiau. Dannedd blaen isaf yn dod trwodd ar 20- 23 diwrnod. Wythnos 4 Cynffon yn tyfu ar ffurf brwsh erbyn 25 diwrnod. Amrannau gydag agennau a blew llygaid wedi'u ffurfio'n dda. Diwedd Wythnos 4 Llygaid yn agor ar 28-32 diwrnod. Ewinedd wedi'u lliwio'n llawn. Pwysau 50-60 g. Wythnos 5 Tyllau clustiau'n agor, llabedau clustiau a thwffiau 3mm ar eu blaenau. Dannedd blaen uchaf yn cael eu teimlo fel lympiau meddal erbyn 34 diwrnod. Wythnos 6 Dannedd blaen uchaf yn dod trwodd erbyn 37-41 diwrnod. Wythnos 7 Dechrau bwyta bwyd solet ar 45 diwrnod. Gallu dringo. Gellid teimlo'r cilddannedd fel lympiau dan gig y dannedd. Dechrau chwilota. Wythnosau 8-10 Diddyfnu'n digwydd fel mae'r fam yn peidio a chynhyrchu llaeth. Llawer o chwilota. Pwysau 80 -130gm Diwedd Wythnos 10 Set gyntaf o ddannedd ‘llaeth' bron yn bresennol. Wythnos 16 Wedi bwrw blew a chreu cot dymhorol a cholli rhai dannedd ‘llaeth'. Pwysau 140 – 200 g. Bwydydd Cyntaf a Lletya Yn nodweddiadol, ni ddylai wiwerod bach gymryd llai na 4% o'u pwysau corfforol yn ystod eu prydau bwyd. Gan fod 1ml = 1g mae'n hawdd penderfynu faint y dylent eu gael. Fodd bynnag mae bob amser yn bwysig i beidio a gorfodi anifail iach i yfed llaeth os nag ydi o eisiau llaeth. Mater cwbl wahanol yw anifeiliaid swrth sy'n amlwg wedi bod heb ddiod ac yn sych, ac os yn bosib, mewn unrhyw ffordd yn y byd, dylent gael eu harchwilio gan filfeddyg – dyna fyddai orau. Roedd ein pedwar bach amddifad ni yn amlwg yn wan, ond yn fywiog, os ychydig yn sychedig. Y cam cyntaf oedd rhoi diod iddynt. Defnyddiwyd piped bach 5ml a chafodd bob anifail 1ml o ddiod. Gan mai dim ond fformiwla llaeth Welpi i gwn bach oedd ar gael, defnyddiwyd y powdwr hwn (1 llwy de gwastad neu 5ml) wedi ei gymysgu â dwr (20ml). Wrth edrych yn ôl mi fuasai wedi bod yn well pe baem wedi rhoi toddiant halwynog (2 beint o ddwr berwedig wedi ei gymysgu ag un llond llwy fwrdd gwastad o siwgr ac un llond llwy fwrdd gwastad o halen) iddynt am yr ychydig droeon cyntaf, ond ar y cychwyn roeddem yn ansicr pa % nerth y dylid ei wneud (Wedyn daethom o hyd i gwpwl o safleoedd gwir ddefnyddiol e.e. Achub a magu wiwerod amddifad ac mi roedd yn amlwg pa mor bwysig oedd defnyddio halen. Cafodd yr anifeiliaid eu bwydo toc ar ôl hanner nos ac wedyn am 7 y bore, 12.00 y pnawn, 5 y pnawn a 9 y nos. Am 5 y pnawn drannoeth defnyddiwyd Cimicat yn lle Welpi, gan fod cynnwys y llaeth yn is ac yn well fformiwla ar gyfer gwiwerod coch. Mewn argyfwng gellid defnyddio llefrith buwch, ond ni ellid dibynnu arno yn y tymor hir. Unwaith mae llaeth powdwr priodol wedi ei bwrcasu, mae'n bwysig mai hwn yn unig a ddefnyddir wedyn. Mae hefyd yn bwysig mai'r un faint o bowdwr a dwr a ddefnyddir ar gyfer pob cymysgfa. Dylid cynhesu y bwyd wedi iddo gael ei wneud cyn bwydo'r anifeiliaid, a dylid hefyd lanhau pob un o'r pipedau'n drylwyr rhwng pob pryd i leihau y perygl o afiechyd. Wrth fwydo'r pedair gwiwer fach roeddwn i'n ffodus i gael fy mhartner hefo fi i'm helpu, ac mi wnaeth hyn wahaniaeth enfawr. Roedd yr anifeiliaid yn yr oed hwnnw pan nad oeddent yn hoffi cael eu dal, ac felly, wedi i'r anifeiliaid gael eu disychedu, datblygwyd trefn gaeth o fwydo. Byddem yn cymryd un anifail o'r nyth ar y tro, byddai un ohonom yn ei ddal a'r llall yn cynnig llond piped o laeth. Cedwir nodyn o faint o ml oedd yn cael ei gymryd, a'r anifail yn cael ei roi'n ôl mewn bocs cardbord bach a gwair ynddo. Unwaith roedd y bedair wedi eu rhoi yn y bocs, byddem yn ceisio eu bwydo eto, cyn rhoi pob un o'r anifeiliaid yn eu tro yn ôl yn y brif nyth. Wedyn, gan fod yr anifeiliaid wedi datblygu'n dda, nid oeddem yn credu fod angen i ni eu bwydo drwy'r nos. I'n cynorthwyo i adnabod yr anifeiliaid rhoddwyd enw ar bob un a nodi nodweddion pob un - lliw cot ayyb. Yr enwau a ddewiswyd oedd Jac, Kieren a'r Yfwr ar y gwrywod ac Eleri ar y fenyw. Lletyodd Jane a minnau'r anifeiliaid y tu fewn i iglw cath wedi ei lenwi â gwair. Gosodwyd yr iglw y tu fewn i gaets y bwji i sicrhau pe bai unrhyw un ohonyn nhw'n gadael y nyth y byddant yn cael eu rhwystro rhag crwydro ymhell. Gosodwyd y gaets wedyn yng nghyntedd y ty gyda gwresogydd oedd yn cadw gwres cyson yn yr ystafell fach, rywle tua 20 gradd. Rhoddwyd yr anifeiliaid i gyd i fewn hefo'i gilydd i sicrhau fod gan bob un gwmni, symbyliad a chynhesrwydd. ( yn ôl i ben y dudalen ) Bu Jac farw, ac aeth y tri arall yn sâl Ar 10/6/05 am 5 o'r gloch, daeth yn amlwg nad oedd Jac yn fo'i hunan. Ymddangosai braidd yn swrth ac er ei fod yn bwydo roeddem yn poeni amdano. Ar ôl y pryd nesaf bu'n taflu i fyny a bore trannoeth gwelsom fwy o chwd ar ben yr iglw. Drannoeth roedd yn edrych yr un mor sâl ac roedd ganddo fymryn o ddolur rhydd. Wedi cyfnewid y fformiwla llaeth am doddiant halwynog o 2ml, aethom i gysylltiad a'r milfeddyg lleol a threfnu i fynd a'r wiwerod ato er mwyn iddo eu archwilio. Canfuwyd fod Jac yn dioddef o niwmonia ac o haint difrifol o'r gwaed. Er iddo gael gwrthfiotig bu farw hanner awr yn ddiweddarach. Dros y tri neu bedwar diwrnod nesaf datblygodd y tri anifail arall yn eu tro y symptomau cynnar a ddangoswyd gan Jac. Yn ddiymdroi mi rois i chwistrelliad o 0.1 Marbocyl 200mg SA i bob un o'r anifeiliaid ac ail chwistrelliad ymhen 24 awr. Rhoddwyd hefyd doddiant halwynog i bob anifail sâl a chynyddu'r bwydo i 2-3 awr a thrwy'r nos. Wythnos yn ddiweddarach roedd yr anifeiliaid wedi gwella'n arw ac roedd y tri'n bwyta bwydydd solet. Roedd y ddau wryw yn ymddangos mewn cyflwr arbennig o dda. Diddyfnu'r ifanc Dros yr wythnos nesaf, bwytaodd yr anifeiliaid oedd ar ôl fwydydd solet, ac, ar wahân i'r fenyw oedd yn llai, rhoddwyd y gorau i ddarparu llaeth. Darparwyd cymysgedd o gnau Ffrengig, cnau almon, cnau a hadau blodau'r haul a hefyd dwr mewn llestr dwr a hefyd mewn dysgl fach fas. Roedd hi'n ddifyr gweld yr anifeiliaid yn bwydo, yn arbennig Kieren, a oedd yn arbennig o fywiog. Does dim amheuaeth fod y gwrthfiotig wedi achub bywyd y dair gwiwer. Yn gynnar ym Mis Gorffennaf bydd y wiwerod yn cael eu dychwelyd i Fforest Niwbwrch ac i'r prosiect ailgyflwyno. Crynodeb Roedd magu'r wiwerod coch ifanc yn waith dysgu garw, yn enwedig pan aeth pob un yn sâl. Cafwyd pentwr o wybodaeth ddefnyddiol oddi ar yr rhyngrwyd ac y mae rhai o'r safleoedd y cyfeiriwyd atyn nhw yn cael eu rhestr isod. Dylid nodi fod anifeiliaid Ynys Môn yn 6-7 wythnos oed a mi fyddai angen rhoi dipyn mwy o sylw i anifeiliaid iau a'u bwydo'n amlach. Mae crynodeb o rai o'r pethau pwysicaf i'w gwybod wedi eu rhestru isod: Gall rhoi diod i wiwer sy'n dioddef yn arw o ddiffyg hylif arwain at sioc heger, confylsiynau a marwolaeth. Dylid rhoi diodydd fesul tipyn ac yn sicr dim mwy na 0.5ml ar yr un pryd. Mae'n hollbwysig i gyflwyno hylif yn ôl i'r corff yn araf bach. Gochelwch rhag niwmonia anadlu tra'n bwydo (llefrith yn ymddangos allan o'r trwyn yn un arwydd). Os bydd anifeiliaid yn swrth, yn ymddangos yn sâl, neu'n dangos arwyddion o'r dolur rydd yna os yn bosibl ewch a nhw at y milfeddyg ar unwaith neu (os ydych chi'n gwybod yn union beth rydach chi'n ‘i wneud a gwrth fiotig ar gael gennych) rhowch chwistrelliad o wrthfiotig – 0.1ml Marbocyl 200mg SA a ddefnyddiwyd gennym ni. Cadwch yr anifeiliaid mewn blwch nythu cynnes heb ddrafft, yn cynnwys digon o wair, a rhowch hwn tu fewn i gaets diogel neu focs. Os yw anifeiliaid yn mynd yn sâl, ceisiwch roi toddiant halwynog iddynt am ddiwrnod neu ddau. Mae technegau a dulliau magu gwiwerod llwyd â llaw a ddogfennir ar y rhyngrwyd yn addas hefyd ar gyfer y cochion. Yn olaf, os ydych mewn amheuaeth chwiliwch am gyngor oddi wrth milfeddyg ac/neu canolfan leol bywyd gwyllt yr RSPCA ayyb. Dolennau defnyddiol: Magu a llaw, adfer, a thrin niweidiau Achub a magu gwiwerod amddifad Magu a llaw a manylion am beth i'w wneud os dowch chi o hyd i anifeiliaid ifanc yn y fforest. |
| ©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion |