|
Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | ||||
|
|
| Yn niwedd y chwedegau y cyrhaeddodd y gwiwerod llwyd i Fôn. Cynyddodd eu poblogaethau'n gyflym, ac erbyn dechrau'r wythdegau ystyrid fod y rhywogaeth wedi hen sefydlu ar yr ynys. Erbyn 1998, roedd y wiwer lwyd wedi disodli'r wiwer goch drwy Fôn heblaw am y blanhigfa gonifferaidd ar Fynydd Llwydiarth. Credir fod yna tua 3,000 o wiwerod llwyd (oedolion) ar Fôn yn nechrau'r flwyddyn honno (1998). Mae'n bur debyg fod niferoedd y gwiwerod coch wedi gostwng i tua 40, ac mewn ymgais i geisio diogelu y rhai olaf o'r gwiwerod coch cychwynnwyd ar raglen o reoli'r gwiwerod llwyd. Erbyn hyn (1998-2003), mae cyfanswm o 6,000 o wiwerod llwyd (gan gynnwys cywion ac oedolion) wedi cael eu symud o'r ynys ac o'r stadau ar y tir mawr ger y ddwy bont. Mae poblogaeth y wiwer goch wedi ymateb yn bositif ac erbyn gwanwyn 2002, roedd bron i 100 o wiwerod coch (oedolion) ar yr ynys.
Mae rheolaeth y wiwer lwyd yn aml yn cael ei argymell fel dull o warchod y wiwer goch, ond yn anffodus, mewn sawl ardal mae'n cael ei weld fel dewis anghynaladwy. Mae'n wir i ddweud, fodd bynnag, fod y gwiwerod llwyd fel rheol yn disodli poblogaethau'r wiwerod coch lleol o fewn 15 – 20 mlynedd, ac mae tystiolaeth arwyddocaol y gall y wiwer lwyd fod yn gyfrifol am ledaenu'r firws ‘parapocs y wiwer goch' i boblogaethau o'r wiwer goch. Yn amlwg mae caniatáu i wiwerod coch a llwyd fyw yn agos i'w gilydd ynddo ei hun yn ddewis anghynaladwy. Credwn, am ei bod yn ynys, fod Môn yn cynnig cyfle unigryw i wrth-droi patrwm difodiant y wiwer goch yn lleol. Gydag adnoddau digonol, gall fod yn bosibl i gael gwared â'r wiwer lwyd yn gyfan gwbl. Mae poblogaeth y gwiwerod llwyd eisoes wedi cael ei gostwng yn sylweddol, a gobeithiwn wneud mwy o'r gwaith hwn mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r wiwer lwyd yn un o'r plâu dinistriol mwyaf mewn coedwigoedd yn y DG. Maen nhw'n achosi difrod sylweddol i gellïoedd o goed caled ac mae ymchwil diweddar wedi dangos eu bod yn chwarae rhan yng ngostyngiad poblogaethau adar y goedwig am eu bod yn ysbeilio'r nythod. Mae'n drosedd dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ( fel ei diwygiwyd ) i ollwng gwiwerod llwyd yn ôl i'r goedwig unwaith maen nhw wedi eu maglu. Mae hefyd yn drosedd i symud gwiwerod llwyd, ac os ydym eisiau mwy o wiwerod coch, allwn ni ddim cael gwiwerod llwyd yn yr un ardal. Mwy...
|
|
| ©2005 The Friends of the Anglesey Red Squirrels | Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion |