Mae ymchwil diweddar gan Wasanaethau DNA-Wildlife o Brifysgol Cymru, Bangor wedi dangos fod yna linach o wiwerod coch sy'n gynhenid i Gymru. Dydi'r mathau genetig yma ddim hyd yma wedi eu darganfod yn unrhyw fan arall yn y DG.
Mae dadansoddiad o samplau a gymerwyd o olion anifeiliaid a gasglwyd tua ugain mlynedd yn ôl o goedwigoedd llydanddail ym Môn wedi dangos fod yr ynys wedi colli llawer o'r amrywiaeth genetig oedd yma unwaith. Beth sy'n weddill ym mhoblogaeth coedwig Mynydd Llwydiarth yw un math haploidaidd neu, mewn termau syml, un llinach fenywaidd. Mae holl fathau genetig yr ynys yn perthyn yn agos ac maen nhw'n dal i fod yn debyg i'r rhai a geir heddiw yng nghanolbarth Cymru. Golyga hyn petai gwiwerod o ganolbarth Cymru yn cael eu casglu a'u rhyddhau ym Môn, byddem yn gallu ail sefydlu math o boblogaeth hanesyddol.
Mae'r tîm o Brifysgol Cymru Bangor hefyd wedi bod yn gysylltiedig gyda'r gwaith o ail gyflwyno'r wiwer goch sy'n mynd rhagddo yng nghoedwig Niwbwrch. Maen nhw wedi samplo'r wiwerod sydd wedi cael eu defnyddio yn y rhaglen rhyddhau, ac wedyn wedi creu proffil genetig ar gyfer pob un ohonyn nhw. Mae hyn wedi caniatáu i'r prosiect ail gyflwyno i greu poblogaeth amrywiol iawn.
Dydi poblogaeth coedwig Niwbwrch, wrth gwrs, ddim yr un fath yn enetig â phoblogaeth Mynydd Llwydiarth. Mae'r ddwy boblogaeth, fodd bynnag, wedi eu gwahanu oddi wrth ei gilydd ar draws 20km o lawr gwlad agored, ac mae'n annhebygol iawn y bydd y gwiwerod yn cyfarfod â'i gilydd ac y bydd y genynnau cynhenid a'r genynnau gafodd eu cyflwyno yn cymysgu. Yn fyr, bydd gennym bob amser boblogaeth arwahanol Gymreig yng nghoedwig Llwydiarth a phoblogaeth gymysg yng nghoedwig Niwbwrch.
