Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn
Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion

    

Gwaith y Cyfeillion

Sefydlwyd grwp y Cyfeillion yn 1999 gan drigolion Môn oedd yn dymuno cynorthwyo i warchod y boblogaeth fechan o'r wiwer goch ar yr ynys.


 

Ddwy flynedd ynghynt, roedd Menter Môn a'r Esmé Kirby Snowdonia Trust wedi cychwyn rhaglen o reoli'r wiwer lwyd er mwyn ceisio diogelu gweddill y boblogaeth o wiwerod coch. Roedd y Cyfeillion yn dymuno ysgogi'r gymuned leol i gefnogi'r ymgyrch hon a hefyd i godi ymwybyddiaeth o gyflwr y wiwer goch. Rydym yn amcanu i godi ymwybyddiaeth o'r angen i warchod y wiwer goch, ac i annog pobl i gefnogi ein hymgyrchoedd ar faterion sy'n ymwneud â'r wiwer goch. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae'r Cyfeillion wedi:

  • Cyllido ymchwil i eneteg y wiwer goch
  • Noddi pâr o wiwerod coch i'w defnyddio mewn rhaglen ailgyflwyno ym Môn
  • Codi arian i ddarparu blychau nythu a bwyd yn ystod y gaeaf
  • Annog rheolaeth o'r wiwer lwyd mewn gerddi a choedwigoedd lleol
  • Trefnu teithiau cerdded, cyflwyniadau drwy gyfrwng sleidiau a digwyddiadau cyhoeddus eraill

Geneteg y Wiwer Goch

Mae ein hymchwil wedi dangos fod poblogaeth y wiwer goch ar yr ynys wedi colli cryn dipyn o amrywiaeth geneteg. Mae'r boblogaeth sy'n weddill yn cynnwys unigolion sy'n perthyn yn agos i'w gilydd ac fe all hyn arwain at broblemau mewnfagwraeth yn y dyfodol.

Yn ddiweddar rydym wedi cyllido ymchwil ychwanegol i boblogaethau gwiwerod mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Gobeithir trosglwyddo gwiwerod coch o rannau eraill yng Nghymru i Fôn i godi safon genetig tymor hir y boblogaeth ar yr ynys.

Red squirrel

 

Ailgyflwyno'r gwiwerod coch

Yn ystod y dair blynedd diwethaf mae wedi bod yn bosibl i gael gwared â'r gwiwerod llwyd bron yn gyfan gwbl o blanhigfa gonifferaidd fawr ar yr ynys. Mae ailgyflwyno'r gwiwerod coch i'r safle hon yn rhan allweddol o strategaeth gwarchodaeth tymor hir i'r gwiwerod coch ym Môn.

Mae'r Cyfeillion wedi noddi un pâr o wiwerod coch sy'n cael eu lletya mewn lloc eang (mae dros ugain troedfedd o uchder!) yn y goedwig.

Mae cyfanswm o bump o'r llociau mawr yma wedi eu codi yn y goedwig fasnachol gonifferaidd. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn lletya 12 o wiwerod coch (oedolion) a gobeithir y bydd yr anifeiliaid yma'n bridio'n llwyddiannus yn 2004 . Bydd y cywion wedyn yn cael eu rhyddhau i'r goedwig gyfagos yn ystod yr haf a'r hydref.

Apêl Nythod a Chnau 2003

Yn 2003 cychwynnodd y Cyfeillion apêl ‘ Nythod a Chnau' er mwyn codi arian i adeiladu blychau nythu pren ar gyfer y wiwer ac i brynu bwyd ychwanegol i'r gwiwerod. Codwyd yr hopran fwyd gyntaf yng nghoedwig Mynydd Llwydiarth yn hydref 2004.

Yn ystod Chwefror 2001, codwyd dros bedwar ugain o flychau nythu pren mewn coedwigoedd ble roedd gwiwerod coch. Roedd y rhain yn cael eu defnyddio'n aml gan y wiwerod coch ac mae torllwyth o wiwerod coch ifanc wedi cael eu gweld yn achlysurol ynddyn nhw. Gallai blychau ychwanegol gynorthwyo'r gwiwerod coch wrth iddyn nhw ail afael yn eu cynefin mewn coedwigoedd ar yr ynys ac o ganlyniad, cychwynnwyd apêl i godi arian tuag at y gwaith yma. Roedd hefyd yn ymddangos yn briodol i godi hopranau i roi bwyd ychwanegol i'r gwiwerod yn ystod misoedd y gaeaf a'r gwanwyn cynnar.

Rheoli gwiwerod llwyd

Mae rheoli gwiwerod llwyd yn gwbl hanfodol i strategaeth cadwraeth y wiwer goch yn lleol. Rydym yn annog pobl leol i roi gwybod am unrhyw wiwerod llwyd a welsant ac i ganiatáu difa unrhyw rai sy'n ymweld yn rheolaidd â'u gerddi neu coedwig gyfagos.

Erbyn hyn, mae dros 6,000 o wiwerod llwyd wedi cael eu difa ar Ynys Môn. Mae niferoedd y gwiwerod llwyd yn awr ar lefel isel iawn ac mae hyn wedi caniatáu i boblogaeth y wiwer goch gynyddu o lai na 40 yn 1998 i tua 100 erbyn heddiw. Mae gwiwerod coch wedi ail gartrefu mewn sawl coedwig lydanddail o gwmpas planhigfa gonifferaidd Mynydd Llwydiarth. Mae'r llwyddiant lleol yma yng ngwarchodaeth y wiwer goch o bwysigrwydd cenedlaethol, ac mae'r ail boblogaeth fwyaf yng Nghymru yn awr ar Ynys Môn.

Y gymuned yn gweithredu

Mae'r Cyfeillion yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng y gymuned leol ac asiantaethau cefn gwlad sy'n gysylltiedig â gwarchod y wiwer goch.

Rydym yn codi ymwybyddiaeth o wiwerod coch Môn, yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwaith a wneir i'w diogelu, ac yn nodi ffactorau sy'n bygwth eu goroesiad. Gwneir hyn drwy:

  • Cyfweliadau rheolaidd ar y teledu a'r radio
  • Storïau yn y papurau lleol a chenedlaethol
  • Rhannu taflenni am y wiwer goch a phecynnau gwybodaeth i ysgolion a llyfrgelloedd
  • Trefnu digwyddiadau yn ystod Wythnos Genedlaethol y Wiwer Goch gan gynnwys teithiau wedi eu harwain, sgyrsiau gyda sleidiau a chystadlaethau i ysgolion.
  

Ailgyflwyno – dyma'ch cyfle i gael y newyddion diweddaraf ar y gwaith hanfodol hwn.

 

Mae'r Cyfeillion yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng y gymuned leol ac asiantaethau cefn gwlad sy'n gysylltiedig â gwarchod y wiwer goch. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o wiwerod coch Môn, yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwaith a wneir i'w diogelu, ac yn adnabod ffactorau sy'n bygwth eu goroesiad. Beth am ymuno â ni a'n helpu yn y gwaith pwysig hwn

 

Yn ystod 2000 a 2001 llwyddwyd i atal dinistrio ardal eang o goedwig ble roedd gwiwerod coch i'w canfod. I ddysgu mwy am yr ymgyrch hon dilynwch y dolennau isod:

Newyddion y BBC 29/3/2000

Gwiwerod yn wynebu cwympo coed

Newyddion y BBC 21/4/2000

Gwiwerod yn goroesi cwympo coed

Newyddion y BBC 20/1/2001

‘Achubwyr' y wiwer goch yn wynebu'r dyfodol

Mae gweithredu lleol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i gadwraeth gwiwerod coch.

 

Local action can really make a difference in the conservation of red squirrels.

 


©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn HafanDigwyddiadauCysylltwchYn ôlRhoddion