Yng nghanol Ebrill 2005 cafodd y ddau dorllwyth cyntaf eu diddyfnu yn y llociau yn Niwbwrch. Ar yr 20fed Ebrill 2005 cawsom ein cip olwg cyntaf ar yr anifeiliaid ifanc oedd wedi mentro allan o'u blychau nythu. Ar hyn o bryd, nid ydym yn hollol sicr faint o rai ifanc sydd yna, ond cyn gynted ag y byddwn ni'n gwybod fe rown wybod i chi.
Fe wnaeth y ddwy fenyw (oedolion) fridio'n llwyddiannus yn 2004. Fe wnaeth un o'r rhain, gwiwer gafodd ei pharu gyda gwryw a aned yn y gwyllt yn Cumbria, esgor ar ddau dorllwyth a chyfanswm o bum cyw y llynedd. Un torllwyth gafodd yr ail fenyw ond fe wnaeth esgor ar bedwar o rai bach. Gan iddyn nhw fridio mor gynnar eleni, mae pob siawns y gwnânt fridio unwaith eto, felly rydym yn gobeithio'r gorau.
Yn ychwanegol i'r ddau dorllwyth yma, gwyddom fod yna dorllwyth o dri o rai ifanc a aned yn y gwyllt sydd eisoes wedi eu diddyfnu, ac mae gennym dystiolaeth o ddwy fenyw arall sy'n bridio yn y gwyllt. Mae hyn i gyd yn newyddion da ac mae'r gwaith o ailgyflwyno yn dechrau dwyn ffrwyth.
Felly, be nesa? Wel, rydym yn credu fod yna drydedd benyw yn bridio mewn caethiwed, ond hyd yma nid ydym wedi llwyddo i gael golwg agos ar y wiwer hon. O bellter, fodd bynnag, mae ei thethau ar ei bol yn ymddangos fel petaent wedi chwyddo ac yn amlwg iawn. A beth am
Rosie?
Gwyddom ei bod yn gofyn cymar yn Chwefror ond ar y pryd doedd yna ddim gwryw ar ei chyfer. Cafwyd gwryw gan un o arbenigwyr pennaf y DG ar fridio gwiwerod coch mewn caethiwed, Mr David Stapleford, a rhagwelwn y bydd Rosie yn bridio'n ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn ein hymdrechion i fonitro'r boblogaeth o wiwerod coch a ryddhawyd ddarganfod y newyddion diweddaraf am Niwbwrch ar
Ddyddiadur y We o Niwbwrch
