| Mae coedwig Niwbwrch yn un o'r safleoedd pwysicaf ar gyfer cadwraeth y wiwer goch yn y DU. Mae'n ymddangos yn gynyddol debygol mai dim ond rhyw 500 o wiwerod coch sydd ar ôl yng Nghymru, ac mae'r niferoedd yn dal i ostwng. Mae'r llywodraeth ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad fydd yn penderfynu dyfodol rheolaeth coedwig Niwbwrch. Credwn y dylai'r wiwer goch gael blaenoriaeth uchel.
Roedd gwiwerod coch yn dal i fod yn crwydro coedwig Niwbwrch yn ystod nawdegau cynnar y ganrif ddiwethaf. Yn anffodus, gostyngodd y boblogaeth yn gyson wrth i niferoedd y gwiwerod llwyd godi, ac erbyn 1996 roedd y wiwer goch wedi diflannu o'r safle. Yn dilyn difa cannoedd o'r gwiwerod llwyd, ailgyflwynwyd gwiwerod coch yn 2004 ac mae nhw wedi bridio'n llwyddiannus ers hynny.

Mae'r goedwig yn gynefin da i wiwerod ond byddent yn sicr o elwa o reolaeth fyddai'n codi amrywiaeth y rhywogaeth o goed ac yn gwella lefelau cynhyrchu hadau. Yn ffodus, mae'r hyn sy'n dda ar gyfer y wiwer goch hefyd yn dda ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau'r goedwig. Yn wreiddiol, fodd bynnag, roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru eisiau cwympo ardal eang er mwyn ail-greu cynefin twyni tywod agored oedd yno cyn i'r goedwig gael ei sefydlu. Byddai'r hyn sy'n dda ar gyfer rhywogaethau'r twyni tywod yn amlwg yn drychineb
i'r wiwer goch. Yr ateb yw ceisio darganfod cydbwysedd sy'n dda ar gyfer y ddau amcan cadwriaethol, a'r hyn sy'n allweddol yw i edrych ar hyn mewn cyd destun cenedlaethol. I'w osod yn syml, mae gwiwerod coch ar fin difodiant yng Nghymru, yn nhermau niferoedd a dosbarthiad daearyddol. Mae'r gostyngiad yn eu niferoedd ers 1990 wedi bod yn drychineb. I wneud pethau'n waeth dydi'r rhagolygon ar gyfer eu goroesiad ar y tir mawr yn ddim gwell. Mewn gwrthgyferbyniad mae cynefin y twyni tywod sydd mewn sefyllfa ganolig i dymor hir yn un sy'n gynaliadwy ac yn un y gellir ei reoli'n weddol rhwydd.
Yr hyn y gellwch chi ei wneud ...
1.
Ymwelwch â thudalennau NewYmgynghoriad Niwbwrch ac e-bostiwch eich sylwadau yn cefnogi'r gwiwerod coch.
2. Mynegwch eich barn wrth y Cyngor Cefn Gwlad drwy fynychu cyfarfodydd cyhoeddus, darlithoedd a sgyrsiau cyhoeddus a gwahanol sesiynau galw heibio fydd yn cael eu hysbysebu yn y wasg yn lleol.
3.
Gellwch hefyd gofrestru eich cefnogaeth i gadwraeth y wiwer goch drwy ysgrifennu at eich AS lleol, eich Aelod lleol o'r cynulliad Cenedlaethol a hyd yn oed Prif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhoi ymrwymiad cryf i ddiogelu cynefin y wiwer goch. Mwy...ac mae'n rhaid i ni sicrhau fod y polisi hwn yn cael ei weithredu.
Pam na wnewch chi roi ychydig o'ch amser rwan i roi fynegi'ch barn ar ein harolwg ar-lein am y wiwer goch yn Niwbwrch:
|
| |
Coedwig Niwbwrch yw'r darn mwyaf o goetir (750 hectar) ar Ynys Môn. Mae hefyd yn un o'r mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer hamddena ar yr ynys ac yn gartref i wiwerod coch ac amrywiaeth ysblennydd o anifeiliaid a phlanhigion sydd â'u cynefin yn y goedwig.
Roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, fodd bynnag, wedi cynnig cynlluniau a allai fod wedi arwain at golli hyd at 50% o'r goedwig. Pam? Wel, roeddynt yn dymuno adfer rhan helaeth yn ôl i dwyni tywod agored gyda thwyni symudol ac ychydig o goed. Arweiniodd eu ymgynghoriad cyntaf i deimladau cryf iawn yn lleol yn gwrthwynebu'r cynlluniau
Mwy....
Byddai'n cynlluniau ar gyfer cwympo'r coed a chlirio rhannau o'r goedwig wedi difrodi'r ardal, ac wedi bod yn ergyd drom i waith cadwraeth y wiwer goch yn lleol
Mae'r Cyngor Cefn Gwlad, fodd bynnag, wedi rhwygo eu cynlluniau gwreiddiol, ac yn dymuno tynnu'r cyhoedd i fewn i'r ymgynghoriad. Mae llawer o drafod a chynllunio i'w wneud eto yn ystod y ddwy flynedd nesaf o ymgynghori, felly, pam na wnewch chi roi eich cefnogaeth i ni a'n cynorthwyo i weithio gyda'r CCG a'r Comisiwn Coedwigaeth i siapio'r goedwig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r Newborough Forest Preservation Group i ddarganfod faint o'r bobl leol sy'n gweithio i sicrhau fod y goedwig yn cael ei rheoli ar gyfer y gymuned leol. Gellwch hefyd ymweld â thudalennau'r we y Comisiwn Coedwigaeth er mwyn mynegi eich barn yn uniongyrchol wrth y llywodraeth.
Ymgynghoriad Niwbwrch
I weld canlyniadau ein arolwg ar-lein 2004: Llwythwch y Ffeil i lawr
|
|