Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn
Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion

  

Digwyddiadau diweddar yn 2005

Mae'r cyfeillion yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Cynhaliwyd y digwyddiadau isod yn ystod 2005.


  • Sgwrs a sleidiau fin nos

Cynhaliodd Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn sgwrs a sleidiau yn dwyn y teitl ‘ Red Squirrels Return to Newborough Forest ' yn Llangaffo, Môn. Digwyddodd hyn nos Wener, 18fed Mawrth 2005 yn Neuadd Bentref Llangaffo a daeth tua 25 o bobl i'r cyflwyniad i ddysgu am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y goedwig.

Evening talk in Llangaffo

Mae'r poster ar gael ar-lein. Gellwch lwytho'r poster i lawr. Gellwch lwytho'r poster i lawr

  • Diwrnodau adeiladu blychau nythu – Ebrill a Mai 2005

Fe gynorthwyodd plant ysgol lleol ni i adeiladu blychau nythu i'r wiwer goch ym Mhlas Cadnant Gate, Ynys Môn. Yn ddiweddarach codwyd cyfanswm o 15 blwch nythu newydd yng nghoedwig Niwbwrch mewn ardal ble mae gwiwerod coch wedi eu gweld a'u dal. Bydd y blychau yma yn cael eu monitro yn y dyfodol a byddant yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ni am arferion bridio a dosbarthiad y wiwer.

  • Taith yn y Goedwig yng nghwmni Martin Bailey a'i gyfeillion – 8fed Mai 2005

Fe arweiniodd Martin griw hapus o wyth o bobl drwy Goedwig Niwbwrch, ac er na welwyd yr un wiwer goch, cafodd y grwp olwg ardderchog ar sawl cigfran a'r gnocell fraith fwyaf. Roedd y goedwig yn edrych yn wych yng ngolau'r haul ar ddiwrnod o wanwyn diweddar ac roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr.

  • Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd 2005 (30ain Mai – 4ydd Mehefin 2005)

Cynhaliodd Bethan Wyn Jones weithdai ar y wiwer goch yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Roedd hefyd yn trafod ei haddasiad Cymraeg, ‘Y Wiwer Goch', o lyfr Tom Tew a Niall Benvie ar y wiwer goch.

  • Gwyl Arddio Bodelwyddan – 28/29/30ain Mai 2005

Roedd safle gan y Cyfeillion yn yr Adran Cefn Gwlad.

  • Cynhadledd Rhywogaethau Estron – 23/24/25ain Mehefin

Cynhelir cynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Hallem, Shefield. Y teitl yw ‘ Ecology, history, culture and management of alien plants and animals – issues for nature conservation' a'r bwriad yw codi ymwybyddiaeth am amrywiaeth o rywogaethau egsotig a rhai heb fod yn gynhenid i'r DG.

Dadlwythwch pdf sy'n rhoi manylion y gynhadledd DF

  • Ffair Haf Plas Newydd – 26ain Gorffennaf 2005

Bydd gennym stondin yn y Ffair sy'n gwerthu ein nwyddau a byddwn hefyd yn gwneud blychau nythu a hopranau bwyd. Bydd arbenigwyr wrth law i drafod gwiwerod coch a llwyd, ac fel arfer, bydd cyfle i chi ymaelodi a dod yn aelod gweithredol o'r Cyfeillion. Edrychwn ymlaen at weld pawb.

 

 

    
Red squirrel in Plas Gwyn

©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn HafanDigwyddiadauCysylltwchYn ôlRhoddion