Help us halt the Decline of our Precious Red Squirrels in Clocaenog Forest!

Helpwch ni i atal Dirywiad ein Gwiwer Goch Werthfawr yng Nghoedwig Clocaenog!
Wedi ei lleoli yn siroedd Conwy a Dinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae Coedwig Clocaenog yn ymestyn am 5500 hectar ac yn cynnwys cymysgedd o rywogaethau conwydd gan gynnwys llarwydden, sbriwsen Norwy, sbriwsen Sitca a phinwydden.
Fe’u plannwyd yn y 1930au, ac yn y 1950au dechreuodd y wiwer goch (Sciurus vulgaris) ddefnyddio’r bwyd a ddechreuodd gael ei gynnig gan y coed oedd yn aeddfedu. Mae’r goedwig, sydd bellach yn cynnwys ardaloedd eang sy’n llawn coed aeddfed, yn cynnig mosäig cyfoethog o ffynonellau bwyd trwy gydol y flwyddyn sy’n fudd enfawr i’r wiwer goch.
Er mai Llywodraeth Cymru sy’n berchen arni, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n ei rheoli, a hynny trwy ddefnyddio Safonau Coedwig y DU. Trwy ddefnyddio’r dull hwn, y nod yw cydbwyso a darparu nifer o fuddiannau wrth reoli’r goedwig.
Mae’n dipyn o her! Mae Coedwig Clocaenog hefyd yn gartref i fywyd gwyllt cyfoethog gan gynnwys Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop fel y pathew (Muscardinus avellanarius) a sawl rhywogaeth ystlum.
Er nad yw’n Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, mae gwiwer goch Clocaenog yn flaenoriaeth yr un mor uchel i reolwyr y goedwig. Mae hi wedi ei diogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a golyga hyn ei bod hi’n drosedd i ladd neu anafu gwiwer goch yn fwriadol neu i ddifrodi neu ddinistrio strwythur neu le a ddefnyddir fel lloches neu amddiffynfa gan wiwer goch yn fwriadol, neu i darfu ar wiwer goch tra’i bod hi’n byw mewn lle fel hyn. Felly, mae CNC yn gweithio’n ofalus ar Gynllun Adnoddau’r Goedwig sy’n cynllunio pryd a ble y gellir torri coed i lawr heb niweidio yr un o’r rhywogaethau a warchodir yno.
Er gwaethaf popeth, creodd CNC Gynllun Adnoddau’r Goedwig i sicrhau cyflenwad cyson o fwyd, lloches ac adnoddau trwy fosäig o goed o wahanol rywogaethau ac oedrannau. Mae hyn yn darparu cynefin addas i’r boblogaeth fechan o wiwerod coch tra ar yr un pryd yn dal i wneud y goedwig yn gynaliadwy. Mae nifer rhai coed llydanddail fel y dderwen a’r ffawydden wedi cael ei leihau er mwyn cael gwared ar ffynhonnell fwyd sy’n cael ei ffafrio gan y wiwer lwyd. Yn ôl astudiaeth yn 1996, blwyddyn dda am fes, roedd y wiwer lwyd yn gwneud cryn ddefnydd o fes y ffawydden.
Gwiwer Goch Coedwig Clocaenog
Mae Coedwig Clocaenog yn un o dri chadarnle’r wiwer goch yng Nghymru. Mae’r lleill ar Ynys Môn ac yn y canolbarth, ble mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol i geisio cynyddu’r boblogaeth.
Yn y 1990au roedd nifer fawr o wiwerod coch o gwmpas Coedwig Clocaenog ac ystyrid mai hon oedd y boblogaeth fwyaf tan y llwyddiant ar Ynys Môn. Mae’r goedwig ucheldirol hon yn eistedd rhwng 300m a 500m uwch lefel y môr ac fe’i hamgylchynir gan weundir a thir amaeth i’r gogledd a’r gorllewin gan greu rhyw fath o ynys. Mae’n debygol mai dyma achubiaeth y wiwer goch wrth i ddaearyddiaeth greu ffin rannol yn erbyn y wiwer lwyd.
Mae helaethder y sbriwsen Sitca’n gwneud y goedwig yn llai deniadol i’r gwiwerod llwyd gan fod maint bychan yr hedyn yn ei gwneud hi’n anoddach iddynt gael digon o egni o’r hadau. Mae’r gwiwerod coch yn fwy coedwigol na’r mewnfudwyr o America, ac maent felly’n rhai gwell am chwilota am yr hadau llai yma ynghyd â rhannau o’r binwydden a’r sbriwsen Norwy. Mae’r cydbwysedd cywir yn hanfodol er mwyn gwarchod y boblogaeth hon. Mae llawer o astudio wedi bod ar wiwerod coch Coedwig Clocaenog. Astudiodd Dr Sarah Cartmel ecoleg y ddwy rywogaeth yn y 90au hwyr ac mae hyn wedi cael ei ddefnyddio i wella rheolaeth y goedwig er mwyn cynorthwyo’r wiwer goch.
Yn anffodus, nid yw rheoli’r goedwig yn unig yn ddigon i ddiogelu poblogaeth y wiwer goch. Mae’r wiwer lwyd yn dal i ddod i’r goedwig, gan gystadlu gyda’r wiwer goch am fwyd a gall hefyd ledaenu clefydau. Mae CNC (a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru cyn hynny) wedi bod yn ceisio rheoli niferoedd y wiwer lwyd yn y goedwig ers blynyddoedd.
Er gwaethaf hyn i gyd, mae amcangyfrifon o’r boblogaeth a gwybodaeth am sawl gwaith y gwelwyd y wiwer goch yn awgrymu bod y boblogaeth wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Serch hynny, mae’n anodd iawn gweld y wiwer goch ar dir uchel felly mae’n anodd bod yn sicr. Ond yn 2014, dechreuodd y prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy fonitro gan ddefnyddio camerâu a bocsys bwydo am y tro cyntaf. Roedd cryn gyffro ymysg y gwirfoddolwyr wrth iddynt ddarganfod delweddau o’r wiwer goch o fewn mis.
Gwiwerod Coch Unedig – Coedwig Clocaenog
O ganlyniad i’r newyddion da yma, mae’r prosiect Gwiwerod Coch Unedig, prosiect a ariannir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri am dair blynedd, bellach yn ceisio sicrhau dyfodol y wiwer goch yng Nghlocaenog. Bydd Coedwigwr y Wiwer Goch yn cael ei helpu gan gymunedau lleol a fydd yn cael eu hyfforddi sut i fonitro’r wiwer goch ond yn bwysicach fyth sut i reoli’r wiwer lwyd a’i hatal rhag dod i’r goedwig.
Bydd sesiynau i blant ysgol Cyfnod Allweddol 2, cyflwyniadau a stondinau mewn sioeau a digwyddiadau hefyd yn sicrhau bod y gair ar led, a’n bod ni o ddifrif ac yn benderfynol o atal dirywiad y wiwer goch yng Nghoedwig Clocaenog.
Bydd grŵp lleol o ffrindiau’r wiwer goch yn cael ei annog – sylweddolwyd yn y cyfarfod cyntaf bod pobl yn bendant yn teimlo’n gryf am y wiwer goch leol a chafwyd sawl syniad am sut i’w gwarchod. Mae ein pencadlys ym Mod Petryal, yn ne’r goedwig, ble gellir storio ein cyflenwad o abwyd. Os gwireddir ein nod a bod poblogaeth y wiwer goch yn cynyddu, efallai y byddwn yn defnyddio ein pencadlys fel cuddfan gwiwer goch!
Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon, felly dewch ‘nôl yn aml!