Mapiau Dosbarthiad

Dosbarthiad Gwiwerod Coch

Anglesey Map

Yn hanesyddol: mae’r Ymddiriedolaeth wedi canolbwyntio ei gwaith ym Môn, ynghyd â rheoli’r gwiwerod llwyd mewn rhan gul o Wynedd, yn agos at y Fenai. Gan fod gwiwerod coch wedi croesi’r Fenai, rydym bellach yn cydlynu gwaith cadwraeth y wiwer goch mewn rhan helaeth o ogledd Gwynedd.

Ynys Mon: Gellir gweld gwiwerod coch mewn sawl coedwig ym Môn. Y cadarnleoedd yw’r planhigfeydd conifferaidd yng nghoedwigoedd Niwbwrch a Phentraeth sydd, gyda’i gilydd, yn gartref i 200-300 o wiwerod coch llawndwf. Mae gwiwerod coch hefyd i’w gweld ym Mharc Arfordirol Penrhos (Ynys Cybi), stad Dulas, coetiroedd o amgylch Benllech a Mynydd Bodafon, stad Red squirrels on AngleseyGarreglwyd, Plas Newydd, Porthaethwy, coetiroedd a pharciau ym Miwmares, ac mewn coetiroedd llai yng nghanol ac yn ne-ddwyrain Ynys Môn.

Gwynedd: Yn 2008, llwyddodd gwiwerod coch i groesi’r Fenai gan ailgytrefu coetiroedd ar y tir mawr ac erbyn heddiw mae poblogaethau bach i’w cael yn ngerddi Treborth, stad y Faenol ac ardal Penrhosgarnedd ger Bangor ac mae ambell wiwer goch wedi’i gweld tuag at ardal dyffryn Ogwen.

Mae’r poblogaethau sydd yn weddill yn ne a gogledd-ddwyrain Cymru i’w cael mewn planhigfeydd helaeth o byrwydd ar ucheldir. Golyga hyn fod Ynys Môn a Gwynedd yn unigryw oherwydd nid yn unig y ceir gwiwerod coch mewn cynefinoedd llydanddail o dderw, cyll ac ynn, ond maent hefyd yn olygfa gyffredin mewn nifer o erddi a pharciau maestrefol.

Wedi gweld gwiwer? Rydym yn dibynnu ar bobl yn ein hysbysu pan fyddant wedi gweld gwiwer coch er mwyn inni fonitro dosbarthiad eu poblogaethau, ac felly os ydych wedi gweld gwiwer goch (neu, yn wir, gwiwer lwyd) yn lleol, defnyddiwch y dudalen ‘Wedi gweld gwiwer?’ i’n hysbysu. Yn ddiweddar rydym wedi mapio’r mannau y’n hysbyswyd eich bod wedi gweld gwiwer goch ac mae’r rhain yn dangos clystyrau yn Niwbwrch, Porthaethwy a Phlas Newydd. Pe gwelwch wiwer goch, rhowch wybod inni, ac os byddwch yn tynnu llun gallwn roi’r llun yn ein horiel