Cadwraeth gwiwerod coch

Red-at-feederMae gan y mamal deniadol hwn gorff uchaf lliw castanwydd, ac mae’r ochr isaf yn llwydfelyn neu hufen; mae ganddo gudynnau amlwg ar ei glustiau a’r gynffon flewog y mae’n adnabyddus amdani. Mae’n anifail llai o faint na’r wiwer lwyd sydd wedi’i chyflwyno.

Mae’r wiwer goch i’w chael yn naturiol ar draws y rhan fwyaf o Ewrop ac i mewn i Asia a Siberia. Yn y rhan hon o’i thiriogaeth, nid yw o dan fygythiad. Yn y DU mae wedi’i chyfyngu i ychydig safleoedd, yn bennaf y rhai sy’n rhydd o gystadleuaeth gyda’r gwiwerod llwyd.

Yn hanesyddol, byddai’r wiwer goch i’w chael ym mhob rhan o Fôn ac yn benodol yn y coetiroedd llydanddail ar lannau’r Fenai. Manteisiodd y rhywogaeth hefyd wrth i’r planhigfeydd conifferaidd, a sefydlwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar Fynydd Llwydiarth (Pentraeth) a Thywyn Niwbwrch yn y 1950au, aeddfedu. Serch hynny, ers yn gynnar yn y 1970au, gwelwyd nifer gynyddol o wiwerod llwyd ym Môn wedi iddynt naill ai nofio’r Fenai neu groesi ar hyd un o’r ddwy bont.

Yn ôl yr hanesion, disgynnodd poblogaeth y wiwer goch yn sylweddol yn y 1980au wrth i niferoedd y wiwer lwyd gynyddu, ac yn gynnar yn y 1990au prin y gwelwyd y wiwer goch. Ym 1997 roedd poblogaeth y wiwer goch ym Môn yn agos at ddifodiant, gyda llai na 40 o wiwerod llawndwf ar ôl. 14 mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r boblogaeth wedi cynyddu i ragor na 400; a pheth cyffredin bellach yw gweld gwiwerod coch mewn coetiroedd conifferaidd, coed llydanddail, parciau a gerddi. Yn 2008, bu i wiwerod coch groesi’r Fenai gan gytrefu sawl coetir yng Ngwynedd.

Y ffactor mwyaf sy’n effeithio ar ffawd y wiwer goch frodorol yw presenoldeb gwiwer lwyd ddwyreiniol Gogledd America nad yw’n frodorol. Mae’r rhywogaeth hon, sydd yn fwy o faint, yn cystadlu â;r wiwer goch frodorol am adnoddau ac mae’n cario glefydau y mae’r wiwer lwyd yn imiwn iddynt ond sy’n lladd y wiwer goch. A hithau’n ynys, mae Môn yn cynnig cyfle unigryw i waredu gwiwerod llwyd ac erbyn heddiw dim ond llond dwrn o wiwerod llwyd sydd ar ôl.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio i waredu’r gwiwerod llwyd sy’n weddill a gwella’r cynefin i’r wiwer goch frodorol.

Ecoleg y wiwer goch

Stripped_conesNid yw gwiwerod coch yn gaeafgysgu ond maent yn paratoi storfeydd o fwyd at gyfnodau pan na fydd bwyd ffres ar gael. Bydd gan y rhai sy’n byw mewn coetir cymysg o goed llydanddail a choed coniffer ffynhonnell o fwyd gydol y flwyddyn, gan y bydd hadau pinwydd ar gael drwy fisoedd y gaeaf. Serch hynny, mae gan y wiwer goch ddeiet amrywiol sy’n cynnwys hadau, blagur, blodau, dail a ffrwythau. Rydym yn gwybod hefyd eu bod yn cymryd pryfed, ffyngau ac wyau adar. Cesglir ffyngau a’u sychu drwy’u gwasgu i ganghennau’r coed.

Mae gwiwerod coch yn creu nythod o fwsogl a brigau mân gan eu hadeiladu yn uchel yn y canghennau. Maent yn cynhyrchu dwy dorllwyth o dair neu bedair gwiwer fach bob blwyddyn, fel arfer ym mis Mawrth a mis Gorffennaf. Y nyth, gan amlaf, fydd y dystiolaeth gyntaf fod gwiwerod coch mewn coedwig. Mae arwyddion eraill yn cynnwys ‘calonnau’ conau pinwydd wedi’u cnoi (bydd adar yn gadael gweddillion carpiog), plisgyn cnau cyll wedi’u hollti (bydd pathewod yn gwneud twll i dynnu’r gneuen), egin coed wedi’u torri a thail ar wasgar.

Gall gwiwer goch fyw am hyd at chwe blynedd. Yn ystod y dydd y bydd hi’n weithgar yn bennaf a bydd yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser hwn yn porthianna.

Yn y 50 mlyned diwethaf, gwelwyd dirywiad aruthrol yn eu niferoedd yn sgil colli a darnio eu cynefinoedd, clefydau ac, yn benodol, cystadleuaeth gan y wiwer lwyd sydd wedi’i chyflwyno (Sciurus carolinensis).
Statws gwiwerod coch a llwyd

UK_distribution_mapbY wiwer goch: Wedi’i dosbarthu fel Risg Is – yn agos at fod dan fygythiad gan Restr Goch yr Undeb Rhyngwladol er Cadwraeth Natur (IUCN), ac wedi’i rhestru o dan Atodiad III Confensiwn Berne. Dan fygythiad yn y DU, ac wedi’i gwarchod o dan Adotlen 5 a 6 y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (fel y’i diwygiwyd).

Y wiwer lwyd: Wedi’i dosbarthu fel pla dinistriol yn y DU o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (fel y’i diwygiwyd) lle mae wedi’i rhestru o dan Atodlen 9.

Dosbarthiadau: Yng nghoetiroedd llydanddail Cymru, dim ond ym Môn ac mewn safleoedd ger y Fenai y mae gwiwerod coch i’w cael bellach. Fel arall yng Nghymru, mae’r poblogaethau wedi’u hynysu mewn planhigfeydd conifferaidd. Cliciwch ar y map i’w wneud yn fwy.

Gwahaniaethau o ran maint a blew y wiwer goch a’r wiwer lwyd

Mae’r wiwer goch Ewrasiaidd ( Sciurus vulgaris ) yn llawer llai na’r wiwer lwyd ac nid yw i’w gweld mor aml yn porthianna ar lawr y goedwig.

Mesuriadau cyfartalog corff gwiwer goch lawndwf:

Hyd y corff:   190 – 210 mm
Hyd y grimog:   69 – 72 mm
Pwysau’r corff:   270 – 330g

Lliw’r gôt:   Gall amrywio’n fawr; bydd rhai unigolion yn ymddangos yn frown tywyll ac eraill yn goch copr. Mewn llawer o ardaloedd, gall y gynffon bylu i liw gwellt melyn yn ystod misoedd yr haf. Mae cudynnau i’w gweld ar eu clustiau yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf.

Cafodd gwiwer lwyd ddwyreiniol Gogledd America ( Sciurus carolinensis ) ei chyflwyno gyntaf i’r DU ym 1876.

Mesuriadau cyfartalog corff gwiwer lwyd lawndwf:

Hyd y corff:   250 – 260 mm
Hyd y grimog:     76 – 79 mm
Pwysau’r corff   550 – 650 g

Lliw’r gôt: Mae’i chôt yn llwyd ond â darnau o goch yn arbennig ar ei phen ac ar ei hystlysau. Mae i’w chynffon ymyl gwyn amlwg.

Ailgyfwyno

Ym 1998 dim ond 30-40 o wiwerod coch oedd ar ôl yng nghoedwig Pentraeth ym Môn. Er i’r boblogaeth gynyddu yn dilyn camau i reoli’r gwiwerod llwyd yn lleol, roedd natur ddarniog coetiroedd yr ynys yn golygu y cynhaliwyd cyfres o ymarferion ailgyflwyno gwiwerod coch er mwyn cyflymu eu lledaeniad. Roedd y broses hon hefyd yn golygu gwella amrywiaeth enetig cronfa enynnau’r ynys .

Cynhaliwyd yr ailgyflwyniad cyntaf yng nghoedwig Niwbwrch yn 2004-2007. Cafodd yr anifeiliaid eu cadw mewn llociau caeedig mawr yn y goedwig ac wedyn caent hwy, ac unrhyw wiwerod bach, eu rhyddhau o’r llociau. Er y bu’r ailgyflwyniad yn llwyddiant, yn y prosiectau dilynol dim ond am dair wythnos y câi’r gwiwerod eu cadw’n gaeedig cyn eu rhyddhau, gan ddefnyddio nifer fach o anifeiliaid (6-8) ym mhob ailgyflwyniad er mwyn lleihau’r perygl o haint adenofirws .

Ers hynny, dyma’r achosion o ailgyflwyno gwiwerod coch a gynhaliwyd:

2005-2007 – Parc Penrhos (Caergybi)

2006-2007 – Neuadd Henllys (Biwmares)

2008 – 2009 – Stad Plas Newydd (Llanfairpwll)

2008 – 2009 – Stad Garreglwyd (Llanfaethlu)

2008 – 2009 – Hermon

2010 – 2011 – Stad Dulas

2010 – 2011 – Marian-glas
Blychau

th_10Fel arfer, bydd gwiwerod yn adeiladu’u nythod yn uchel yng nghanopi’r coetir. Maent hefyd yn defnyddio tyllau yn y coed ac weithiau’n defnyddio blychau nythu.

Defnyddiwyd blychau nythu yn y lle cyntaf i fonitro gwiwerod coch gwyllt yn y DU mewn safle yng ngorllewin Swydd Gaerhirfryn (1994-1997). Datgelodd yr astudiaeth hon y byddai’r anifeiliaid yn ddigon parod i fridio yn y blychau. Canfuwyd hefyd fod y defnydd a wnaed o’r blychau yn lleihau drwy fisoedd y gaeaf a’r gwanwyn. Gwnaed y defnydd mwyaf ohonynt yn yr hydref, y tymor pan fo poblogaeth y wiwer goch fel arfer ar ei huchaf.

Ym Môn, defnyddiwyd 60 blwch nythu i fonitro poblogaeth y gwiwerod coch gwyllt ar Fynydd Llwydiarth (coedwig Pentraeth) yn y cyfnod rhwng 2001 a 2008. Roedd y blychau yn offeryn monitro amhrisiadwy a chasglwyd data hanfodol ar faint torllwythi’r gwiwerod coch a’u dyddiadau esgor. Yn y prosiect ailgyflwyno yn Niwbwrch, roedd y gwiwerod coch a ryddhawyd yn rheolaidd yn defnyddio rhwng 73-87% o’r 30 o flychau nythu yn y goedwig.

Rydym wastad yn sicrhau bod y blychau yn llawn gwair wrth eu gosod yn y lle cyntaf, gan fod gwiwerod yn hoff o nythu yn y deunydd hwn. Maent naill ai’n creu gwagle yn y gwair neu’n cysgu mewn pant ar ben y gwair. Bydd yr anifeiliaid yn dod â deunydd ychwanegol i mewn i’r blychau hefyd, gan gynnwys mwsogl sych, stribedi meddal o risgl, gwair ac weithiau darnau o ddail a brigau.

Lawrlwytho Cynlluniau Blwch Nythu Gogledd Lloegr

Lawrlwytho Cynlluniau Blwch Nythu Gwiwerod o America