Ymchwil Enetig

Geneteg y wiwer goch a’r wiwer lwyd

genticsYm 1998, dim ond 30-40 gwiwer goch oedd ar ôl ym Môn. Poblogaeth unigol wedi’i hynysu yn rhan ddwyreiniol coedwig Pentraeth oedd y rhain.

Yn ôl dadansoddiad cymharol o samplau blew a gymerwyd o boblogaeth y goedwig a deunydd a gymerwyd o sbesimenau a drigai mewn safleoedd coetir llydanddail ym Môn ugain mlynedd yn ôl, mae’r ynys wedi colli llawer o’r amrywiaeth enetig a arferai fod yma. Erbyn y 1990au hwyr, dim ond un haplofath (yn syml, un llinell waed fenywaidd) oedd ar ôl ac roedd yn gyffredin i bob anifail ym mhoblogaeth coedwig Pentraeth.

Lawrlwytho Adroddiad Newyddion y BBC ar eneteg gwiwerod coch Cymru

Lawrlwytho Papur Geneteg Cadwraeth (2005)

Datgelodd y gwaith ymchwil hanesyddol hwn hefyd fod nifer o linellau gwaed sy’n unigryw i wiwerod coch Cymru. Hyd yma, ni welwyd y mathau genetig yma unrhyw le arall yn y DU, ond yn 2011 dangosodd gwaith ymchwil fod gan anifail a fewnforiwyd o dir mawr Ewrop linell waed debyg.

Atgyfnerthwyd poblogaeth y wiwer goch ym Môn gan gyfres o ailgyflwyniadau. Casglwyd samplau blew o lawer o anifeiliaid a ddefnyddiwyd yn y rhaglen ryddhau a lluniwyd proffiliau genetig. Datgelodd y gwaith ymchwil hwn fod y prosiectau ailgyflwyno yn cynnwys amrywiaeth o anifeiliaid sy’n gyfoethog ac amrywiol o ran eu geneteg.

Yn 2010, bu Labordy Wildgenes yn Sw Caeredin yn sgrinio samplau o flew a gasglwyd o 100 o wiwerod coch o bob rhan o’r ynys. Datgelwyd patrymau llif genynnau gwiwerod coch Môn yn yr astudiaeth unigol fwyaf o’i math yn y DU.

Dyma’r canfyddiadau allweddol:

1. Bu cynnydd yn yr amrywiaeth enetig ym Môn.

2. Cynyddodd nifer y llinellau gwaed o un i chwech ers 2002/3.

3. Roedd anifeiliaid wedi gwasgaru i mewn i goedwig Pentraeth o safleoedd ailgyflwyno cyfagos.

4. Coedwig Niwbwrch oedd yn cynnwys y boblogaeth unigol fwyaf o wiwerod coch a bod mathau genetig nad oedd wedi’u hailgyflwyno yno wedi cyrraedd wrth i wiwerod coch wasgaru.

5. Argymhellwyd y dylid cymryd samplau ychwanegol o flew ac i’r diben hwnnw mae’r Ymddiriedolaeth yn anelu at gasglu samplau blew 200 o wiwerod coch yn 2011 a 2012.

Genetic_research_2011

Yn 2010 a 2011 bu’r Ymddiriedolaeth hefyd yn casglu samplau blew 50 o wiwerod llwyd ym Môn a thir mawr Gwynedd. Bydd y rhain, ynghyd â 60 sampl o flew a gasglwyd yn yr ynys yn 2007, yn caniatáu i ymchwilwyr yn Llundain fesur yr amrywiaeth enetig ym mhoblogaeth y wiwer lwyd yn y rhan hon o arfordir gogledd Cymru a mesur i ba raddau mae’r boblogaeth ym Môn wedi’i hynysu wrth boblogaethau’r tir mawr.

Brech y wiwer

Center-parcs-pox-1Mae gwiwerod llwyd yn cario firws angheuol y maent yn imiwn iddo. Pan fydd firws brech y wiwer yn heintio’r gwiwerod coch brodorol mae’n achosi symptomau difrifol iawn a marwolaethau. Nodweddir y clefyd gan glwyfau i’r croen ar yr wyneb, yn y geg, ar y traed a’r anws; caiff y clwyfau agored hyn eu heintio gan facteria a fel arfer bydd y cyflwr yn arwain at farwolaeth ymhen 2-3 wythnos wedi iddynt gael eu heintio.Mae cyfran fawr o’r gwiwerod llwyd yn cario’r firws ac nid peth anghyffredin yw canfod 60-70% ohonynt wedi’u heintio. Presenoldeb y firws hwn yw un o’r rhesymau pennaf pam na ddylid caniatáu i wiwerod llwyd fyw mewn ardaloedd lle mae gwiwerod coch yn byw.

Adenofirws

AdenovirusMae adenofirws wedi’i ganfod mewn gwiwerod llwyd a choch ym Môn. Nid yw’n glir a yw’n achosi haint batholegol mewn gwiwerod llwyd neu a yw’n cael ei drosglwyddo o un rhywogaeth gwiwerod i’r llall. Ond yr hyn sy’n glir yw y ceir bod y firws yn aml yn bresennol mewn gwiwerod coch meirw, ac mewn llawer o achosion maent yn dangos arwyddion o salwch sydd yn gysylltiedig â’r haint.

Yn 2005, roedd adenofirws yn gysylltiedig â nifer sylweddol o farwolaethau mewn ymarfer ailgyflwyno gwiwerod coch yn nghoedwig Niwbwrch. Wedi hynny canfuwyd ei fod yn bresennol yn 2007 a thrwy sgrinio canfuwyd yr haint mewn anifeiliaid sy’n byw yn rhannau eraill yr ynys.

Mae’r haint yn achosi clwyfau yn y coluddion a dolur rhydd difrifol.

Achosion eraill o farwolaethau

road_signs1. Traffig ar y ffyrdd

Bob blwyddyn rydym yn dod o hyd i rhwng 10 a 15 o wiwerod coch wedi’u lladd ar y ffyrdd. Caiff y cyrff eu casglu a’u hanfon i gynnal post-mortem arnynt ac i gael eu sgrinio i edrych am firysau. Mae’r camau hyn wedi datgelu sawl achos o anifeiliaid yn cario clefyd ar ffurf haint is-glinigol; hynny yw, roeddynt wedi’u heintio er nad oeddynt yn dangos unrhyw symptomau.

2. Cathod dof

Ar adegau prin, bydd cathod dof yn dal ac yn lladd gwiwerod coch. Mae gennym gofnodion o ysglyfaethu gwiwerod coch yn Wern yr Wylan ac o erddi ym Morthaethwy. Mewn achosion fel hyn, rydym yn anfon y cyrff i gael eu dadansoddi gan ddarparu deunydd ar gyfer ymchwil enetig.

Cyhoeddiadau

Mae llawer o gyhoeddiadau yn ymwneud â chlefydau mewn gwiwerod coch a byddwn yn rhoi’r rhai sydd fwyaf perthnasol i ogledd Cymru isod:

Adenofirws yng ngwiwerod llwyd Môn – Lawrlwytho PDF

Adenofirws yn heintio gwiwerod coch (y DU) – Lawrlwytho PDF

Adenofirws yng ngwiwerod coch Môn – Lawrlwytho PDF

Marweolaeth gwiwerod coch (y DU) – Lawrlwytho PDF

Adroddiad ailgyflwyno gwiwerod coch yng nghoedwig Niwbwrch – Lawrlwytho PDF

Ein hysbysu pe gwelwch wiwer farw neu wiwer sâl

E-bost: Craig@redsquirrels.info

Ffôn: 07966150847

Pe dewch o hyd i wiwer goch sy’n sâl neu sydd wedi marw ym Môn neu Wynedd, cysylltwch â ni ar unwaith.

Pe gellwch gasglu’r corff, defnyddiwch fenig a rhowch y gweddillion mewn bag plastig. Byddwn wedyn yn casglu’r corff ac yn ei roi i’n patholegwyr milfeddygol i gynnal archwiliad post-mortem ac i’w sgrinio i chwilio am firysau.