Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn
Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion

   Blychau Nythu 

Mae gwiwerod, fel rheol, yn adeiladu nythod yn uchel ym mrigau uchaf y coed, ond fe wna nhw hefyd ddefnyddio twll mewn coeden a blychau nythu. Defnyddiwyd blychau nythu yn llwyddiannus am y tro cyntaf i fonitro gwiwerod coch yn y gwyllt yn y DG mewn safle yng ngorllewin Swydd Gaerhirfryn. Dangosodd yr astudiaeth fod yr anifeiliaid yn bridio'n rhwydd yn y blychau nythu. Darganfuwyd hefyd fod graddfeydd defnydd o'r blwch nythu yn gostwng yn ystod misoedd y gaeaf a'r gwanwyn. Roedd y defnydd mwyaf o'r blwch nythu'n cael ei wneud yn ystod yr hydref, y tymor pan fydd dwysedd poblogaeth y gwiwerod coch fel rheol ar ei fan uchaf. Mae modd i chwi weld lluniau y tu fewn i'n blwch nythu. Oriel.


Ar Ynys Môn defnyddiwyd tua 60 o flychau nythu i fonitro poblogaeth y gwiwerod coch gwyllt ar Fynydd Llwydiarth ers 2001. Mae'r blychau yn offer amhrisiadwy ac wedi ildio llawer iawn o ddata ar faint torllwyth a dyddiadau esgor.

Mae darn o d âp sy'n ludiog ar ddwy ochr yn cael ei osod y tu fewn i'r twll sy'n fynedfa i'r blwch nythu ac mae hwn yn dal blew gan y gwiwerod wrth iddyn nhw stwffio drwy'r twll. Dengys hyn os mai gwiwerod coch(neu, yn wir, gwiwerod llwyd) sydd wedi ymweld â'r blwch. Rydym bob amser yn sicrhau fod y blychau'n llawn gwair pan godir hwy am y tro cyntaf, ac mae'r gwiwerod yn gwneud nyth yn y gwair. Fe wnawn nhw naill ai wneud gwagle ynghanol y gwair neu gysgu mewn pant ar ben y gwair. Byddant hefyd yn cario deunyddiau eu hunain i fewn i'r blwch nythu. Mae'r rhain yn cynnwys, mwsogl sych, stribyn o risgl meddal, gweiriau ac weithiau dail a brigau mân.

Mae'r wiwer goch yn cael ei diogelu'n llawn yn y DG dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt. Mae nythod y wiwer goch hefyd yn cael eu diogelu, ac felly mae'n rhaid cael trwydded os oes rhywun yn dymuno archwilio cynnwys blwch nythu sy'n cael ei ddefnyddio gan wiwerod coch.

Young - do not touch!!!

   Ffeithiau am Flychau Nythu

Myth yw'r gred na wnaiff y wiwer goch ddefnyddio blychau nythu. Maent yn barod iawn i ddefnyddio blychau nythu cyn belled ag fod yna ddeunydd sych tuag at godi nyth (fel gwair neu fwsogl) y tu fewn i'r blychau.

Fe wnaiff gwiwerod coch sydd wedi cael eu magu mewn caethiwed yn ogystal â gwiwerod coch gwyllt ddefnyddio'r blychau nythu. Cofnodwyd eu bod wedi defnyddio amrywiaeth o flychau o wahanol ddyluniadau. Beth sy'n bwysig, fodd bynnag, yw y dylai'r blwch fod yn ddigon mawr fel y gallai pêl-droed ffitio y tu fewn iddo.

Defnyddiwyd blychau nythu i fonitro poblogaeth gwiwerod coch gwyllt ar Fynydd Llwydiarth ers Chwefror 2001. Hon fydd y bumed flwyddyn iddynt gael eu monitro.

Hyd yma eleni cafwyd hyd i gyfanswm o dri torllwyth.

Yn y cynllun ailgyflwyno yn Niwbwrch, mae'r gwiwerod coch yn defnyddio rhwng 73 – 87% o'r 30 blwch nythu yn y goedwig yn rheolaidd. Mae anifeiliaid a fagwyd mewn caethiwed hefyd â mynediad i'r blychau, ond yn ddiddorol iawn fe wnawn nhw hefyd adeiladu eu nythod eu hunain yn eu caetsys.

 


©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn HafanDigwyddiadauCysylltwchYn ôlRhoddion