|
Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | ||||
|
|
| Sefydlwyd grwp y Cyfeillion yn 1999 gan drigolion Môn oedd yn dymuno cynorthwyo i ddiogelu'r boblogaeth fechan o wiwerod coch oedd ar yr ynys. Mae aelodaeth nid yn unig yn gymorth i ni gyllido'r gwaith ym Môn ond hefyd yn rhoi mandad gwleidyddol i ni lobïo'r llywodraeth i sicrhau fod y gwiwerod coch yn cael eu diogelu'n gyson.
Ddiwedd haf 2004 clywsom am wiwer goch oedd yn rhannol albino oedd ar gael o Sw yng Nghaint. Oherwydd ei lliw anarferol fe neidiwyd at y cyfle i gynnig cartref newydd iddi ac mae hi rwan yn rhan o'r rhaglen fridio mewn caethiwed. Mae dau wryw wedi cael eu rhoi i fewn gyda hi, un yn lliw tywyll iawn a'r llall yn lliw gwinau cyfoethog. Mae'n annhebygol y bydd Rosie'n esgor ar unrhyw gyw albino ond fe fydd rhai o'i chywion yn cario'r genynnau. Mewn cenedlaethau i ddod gall gwiwerod Môn esgor ar un neu ddau anifail gyda chynffon wen neu rannau gwyn ar eu hystlys, wyneb neu eu cefn. Mae gwiwerod coch sy'n albino yn brin yn y gwyllt am eu bod mor hawdd i'w gweld gan anifeiliaid ysglyfaethus ac felly mae ganddynt gyfradd goroesi is nag unigolion eraill. Os felly, oes yna bwrpas defnyddio Rosie i fridio? Wel, oes gan ei bod yn cynnig cymysgedd anarferol o enynnau ac mae'n bwysig ein bod yn cael cymaint o amrywiaeth genetig ag sy'n bosib yn gynnar yn y prosiect ailgyflwyno'r wiwer goch. Mae genynnau albino hefyd yn rhan o'r sbectrwm eang o'r gwahanol enynnau sydd mewn poblogaethau o wiwerod coch, ac o ganlyniad mae'n amlwg eu bod yn nodwedd o boblogaethau'r DG. Credwn y dylai poblogaeth coedwig Niwbwrch gael cymaint ag sy'n bosib o wahanol fathau o enynnau, ac wedyn gall detholiad naturiol benderfynu yn y pen draw pa rai ddylai gael eu colli a pha rai ddylai gael eu cadw.
Am fwy o wybodaeth gweler Geneteg y Wiwer Goch...
|
|
| ©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn | Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion |