Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn
Hafan Digwyddiadau Cysylltwch Yn ôl Rhoddion

   Y Comisiwn Coedwigaeth yn plannu coed ar gyfer gwiwerod coch Mynydd Llwydiarth

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi plannu darn bychan o dir, tair hectar, yng nghanol coedwig Llwydiarth ar Fynydd Llwydiarth (ger Pentraeth) gyda chymysgedd o rywogaethau o goed fydd yn darparu cynefin ardderchog yn y dyfodol ar gyfer y wiwer goch.

Roedd y safle yn wreiddiol yn gymysgedd o dir agored a choed oedd wedi cael eu cwympo gan y gwynt, ond cafodd hwn ei glirio a'i dirlunio cyn plannu'r coed ifanc.

Plannwyd cymysgedd o binwydd yr Alban, llarwydd, cyll a derw gyda chymorth parod plant ysgol lleol o Ysgol Pentraeth. Mae Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn wrth eu bodd gyda'r gwaith, a gobeithiwn adeiladu ar y bartneriaeth hon gyda'r Comisiwn Coedwigaeth a sefydlu coed ifanc mewn rhannau eraill o goedwig Llwydiarth.


Mike and some of the children from Ysgol Pentraeth

Mr Mike Tranter o Goed y Mynydd roddodd bawb ar ben y ffordd wrth blannu'r coed a chafodd gymorth parod gan blant o Ysgol Gynradd Pentraeth. Dysgodd y plant am y gwahanol goed mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn eu plannu a pha rai sydd orau ar gyfer y gwiwerod coch sydd dan fygythiad. Dysgodd y plant hefyd am ecoleg y gwiwerod coch gan ein Swyddog Addysg, Bethan. Ar ôl gorffen y gwaith o blannu'r coed, roedd cyfle i chwilio'r coed cyfagos am y gwiwerod coch gwibiog. Ni welwyd gwiwerod coch, ond fe gafwyd hyd i foch coed. Roedd y plant wedi mwynhau eu diwrnod, a dymuna'r Cyfeillion ddiolch i Mike Tranter a Rob Williams o'r Comisiwn Coedwigaeth am drefnu digwyddiadau'r diwrnod. Diolch yn fawr iawn!!

Ysgol Pentraeth


  

Ffeithiau am Fynydd Llwydiarth

 

Mae'r goedwig yn gartref i'r ail boblogaeth fwyaf o wiwerod coch yng Nghymru.

Mae'r anifeiliaid yn wahanol yn enetig i unrhyw boblogaeth o wiwerod y tu allan i Gymru. Mae eu perthnasau agosaf yn byw yng nghoedwigoedd canolbarth Cymru.

Mae'r Cyfeillion yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Coedwigaeth i sicrhau y bydd y cenedlaethau sydd i ddod yn gallu mwynhau Coedwig Llwydiarth ac wrth gwrs y gwiwerod coch sy'n brin iawn.

 


©2005 Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn HafanDigwyddiadauCysylltwchYn ôlRhoddion